Goresgyniad Hwngari gan y Mongolwyr (1241–42)
Ym 1241–42, goresgynnwyd Teyrnas Hwngari gan fyddinoedd y Mongolwyr, gan achosi difrod a lladdfa ar raddfa eang ar draws y wlad.
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ers y 1220au, bu'r Mongolwyr yn ymosod ar gyrion dwyreiniol Ewrop. Ym 1237 dygasant gyrchoedd ar Gwmania, cydffederasiwn o lwythau Tyrcig y Cwmaniaid a'r Kipchak yn y stepdiroedd i'r dwyrain. Ffoes nifer o'r nomadiaid i diriogaeth Hwngari, a rhoddid loches iddynt gan y Brenin Béla IV a geisiodd recriwtio'r rheiny—Cwmaniaid Mwslimaidd yn bennaf—ar ochr y frenhiniaeth yn erbyn uchelwyr sirol ei deyrnas yn ogystal â'r Mongolwyr. Fodd bynnag, codwyd gwrychyn y pendefigion gan bresenoldeb y rhyfelwyr hyn, a llofruddiwyd arweinydd y Cwmaniaid. Ffoes ei ddilynwyr i'r de, i wastadedd Walachia, pan oedd y Mongolwyr ar fin ymosod ar Hwngari, gan chwalu cynllun Béla IV i wrthsefyll goresgyniad o'r fath. Yn niwedd 1240, cwympodd Rws Kyiv i luoedd Batu Khan, gan alluogi'r Llu Euraid i oresgyn Canolbarth Ewrop. Aeth Béla IV ati i atgyfnerthu ei amddiffynfeyd, ond methiant a fu ei ymdrechion i berswadio'r uchelwyr i baratoi'n ddigonol am ryfel.
Cychwyn y goresgyniad
[golygu | golygu cod]Ymgynulliodd byddinoedd y Mongolwyr yn rhanbarth Volynia, ac oddi yno goresgynasant Hwngari yn nhymor y gwanwyn 1241. Anfonodd Batu hefyd luoedd i'r Pwyldir, dan arweiniad y cadfridogion Orda a Baidar, rhag ofn i Béla IV alw ar gymorth oddi ar ei berthnasau dugol yn y wlad honno.[1] Lansiwyd yr ymgyrch Bwylaidd ychydig wythnosau cyn goresgyniad Hwngari, gydag ymosodiad chwim ar dref Sandomir ar 13 Chwefror 1241 a buddugoliaeth yn erbyn byddin Bolesław V, Dug Cracof a Sandomir (mab-yng-nghyfraith Béla), ar 18 Mawrth. Ffoes Bolesław i Hwngari, ac aeth Baidar ymlaen i Ddyffryn Oder, gan wthio lluoedd Silesia Uchaf i dynnu'n ôl i'r gorllewin. Ar 9 Ebrill bu farw Bolesław ac Henryk II, Dug Silesia Isaf (cefnder Béla), ym Mrwydr Legnica, a rhoes y Mongolwyr ben Henryk ar waywffon i frawychu'r boblogaeth. Ymosododd minteioedd Orda a Baidar ar Lwsatia ac Ardalyddiaeth Meissen yn yr Ymerodraeth Lân Rufeinig cyn troi i'r de a chroesi Morafia i ailymuno â Batu yn Hwngari.[2]
Ar 10 Mawrth, pan oedd Béla yn trafod â'r uchelwyr Hwngaraidd yn Ofen, cafwyd newyddion am lwyddiant cyntaf y Mongolwyr wrth dorri bylchau caerog ym Mynyddoedd Carpathia, a hynny gan Batu a Sübe'etei ym Mwlch Verecke (Porta Rusciae). Fe'u dilynwyd gan dair byddin arall, y cyntaf dan arweiniad Qadan a Büri drwy Fwlch Borgó ar 28 Mawrth, ac yna dwy golofn dan orchymyn Böchek a Bogutai (o bosib Baghatur) a oresgynnodd Hwngari o'r de-orllewin. Galwodd Béla ei fyddin frenhinol i wersyllu yn Pest, ar lan Afon Donaw, ac yno arhosodd am luoedd atgyfnerthol ei uchelwyr. Rhwystrodd yr ymdrech i ymfyddino gan gyrchoedd y Mongolwyr ar drefi wrth iddynt ymdreiddio i'r wlad, a chafwyd o leiaf un ysgarmes rhwng y fyddin frenhinol a'r goresgynwyr yng ngwastadedd Rákos ger Pest.[3]
Brwydr Móhi
[golygu | golygu cod]Ar 6 Ebrill 1241 arweiniodd Béla IV ei fyddin, gyda marchogion ychwanegol o Urdd y Deml, i wastadedd Móhi, yn cyffinio ag Afon Sajó. Ar lan gyferbyn yr afon safai'r pedair byddin Fongolaidd, rhai ohonynt wedi eu cuddio o olwg yr Hwngariaid. Methodd y fyddin frenhinol i warchod y bont gerllaw, a alluogai ragor o Fongolwyr i groesi'r afon, a gosododd wagenni o amgylch ei gwersyll, penderfyniad trychinebus a fyddai'n rhwystro symudiadau'r Hwngariaid pan gwympai saethau'r gelyn. Amgylchynwyd lluoedd Béla, ac yn y frwydr ar 11 Ebrill caniatáodd y Mongolwyr i ambell fintai Hwngaraidd—gan gynnwys Béla ei hun, a'i frawd Kálmán—i dorri drwy eu rhengoedd, cyn rhuthro ar y gweddill a'u gyrru ar ffo. Credir i'r mwyafrif o'r Hwngariaid gael eu lladd, nid yn unig yn yr ymladdfa ond hefyd trwy foddi yn y ddaear gorslyd wrth iddynt ffoi o'r maes. Dihangodd Béla i Awstria i dderbyn lloches y Dug Ffredrig II am gyfnod, cyn iddo symud i Slafonia, Teyrnas Croatia, a oedd mewn undeb personol â Theyrnas Hwngari.[3]
Dinistr
[golygu | golygu cod]Wedi i luoedd Orda a Baidar gyrraedd o'r gogledd, ac ailymuno â Batu ger Esztergom ym Mai 1241, pum byddin oedd gan y Mongolwyr yn Hwngari. Yn sgil y fuddugoliaeth lwyr ym Móhi, aeth y goresgynwyr yn wyllt ar draws y deyrnas, a llosgwyd Pest yn ulw. Dim ond ychydig o gadarnleoedd ac ambell anheddiad corslyd a choediog na chafodd eu hanrheithio gan y Mongolwyr. Bu farw bron hanner o holl boblogaeth Hwngari.
Adladd
[golygu | golygu cod]Wedi i'r Mongolwyr encilio ym 1242, dychwelodd y Brenin Béla IV i'w deyrnas ac ailsefydlodd ei lys brenhinol ar ochr draw Afon Donaw ym Mryniau Buda.