George Santayana
George Santayana | |
---|---|
Darluniad o George Santayana gan Samuel Johnson Woolf, a ymddangosodd ar glawr cylchgrawn Time ym 1936 | |
Ffugenw | George Santayana |
Ganwyd | Jorge Agustín Nicolás Ruiz de Santayana y Borrás 16 Rhagfyr 1863 Madrid, San Bernardo street |
Bu farw | 26 Medi 1952 Rhufain |
Man preswyl | Ávila, Beacon Street |
Dinasyddiaeth | Sbaen |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | athronydd, llenor, bardd, nofelydd, awdur ysgrifau, academydd |
Cyflogwr | |
Tad | Agustín Ruiz de Santayana |
Mam | Josefina Borrás |
llofnod | |
Athronydd o Sbaen a nofelydd, bardd, ac ysgrifwr yn yr iaith Saesneg oedd George Santayana (Jorge Agustín Nicolás Ruiz de Santayana y Borrás; 16 Rhagfyr 1863 – 26 Medi 1952) sydd yn nodedig am ei gyfraniadau at estheteg, athroniaeth ddamcaniaethol, a beirniadaeth lenyddol. Ganed ef yn Sbaen, a threuliodd ran fawr o'i oes yn Unol Daleithiau America, gan gynnwys y cyfnod o 1889 i 1912 yn darlithio ar athroniaeth ym Mhrifysgol Harvard. Wedi hynny, bu'n byw yn Ewrop, yn bennaf yn Lloegr, Ffrainc a'r Eidal.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed Jorge Agustín Nicolás Ruiz de Santayana y Borrás ym Madrid, Teyrnas Sbaen, ar 16 Rhagfyr 1863, a'r Sbaeneg oedd ei famiaith. Aeth i fyw gyda'i fam yn Boston, Massachusetts, ym 1872, ac yno dechreuai ddysgu'r iaith Saesneg. Byddai'n byw ac yn gweithio yn Lloegr Newydd am y ddeugain mlynedd nesaf. Serch hynny, ni fyddai'n derbyn dinasyddiaeth Americanaidd, a byddai'n meddu ar genedligrwydd Sbaenaidd yn unig trwy gydol ei oes. Er gwaethaf, daeth i ystyried ei hunan yn Americanwr, ac ysgrifennai drwy gyfrwng yr iaith Saesneg yn unig.
Mynychodd Ysgol Ladin Boston cyn iddo gael ei dderbyn i Goleg Harvard. Graddiodd gyda'r clod uchaf ym 1886, ac aeth i astudio athroniaeth ym Mhrifysgol Friedrich Wilhelm, Berlin, am ddwy flynedd cyn dychwelyd i Harvard i gyflawni ei draethawd doethurol dan diwtoriaeth William James.
Wedi iddo ennill ei ddoethuriaeth, ymunodd Santayana â chyfadran athroniaeth Harvard ym 1889. Ar droad y ganrif, yr amserau a elwir "yr Oes Euraid" yn hanes yr Unol Daleithiau, daeth yr Athro Santayana i'r amlwg fel un o dri gŵr doeth Harvard ym maes athroniaeth, ynghyd â'i hen diwtor, y Pragmatydd William James, a Josiah Royce, sefydlwr delfrydiaeth Americanaidd. Ymhlith ei fyfyrwyr bu Robert Frost, Gertrude Stein, Felix Frankfurter, a T. S. Eliot. Penodwyd Santayana yn athro llawn gan y brifysgol ym 1907.
Teithiodd yn aml i'w gyfandir genedigol, gan fwrw'r haf yn Sbaen gyda'i dad, ac ymwelodd hefyd â Lloegr, Ffrainc, a'r Eidal. Astudiodd yng Ngholeg y Brenin, Caergrawnt, o 1896 i 1897, a threuliodd un o'i gyfnodau sabothol yn y Sorbonne ym Mharis.
Ym 1912, ar un o'i deithiau Ewrop, bu farw ei fam, ac anfonodd neges o'i ymddiswyddo i Brifysgol Harvard. Ni fyddai byth yn dychwelyd i'r Unol Daleithiau, er gwaethaf cynigion mynych gan Harvard i'w ddenu yn ôl.[1] Ymgartrefodd yn Lloegr, a threuliodd gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf (1914–18) yn Rhydychen.
Aeth i Rufain ym 1924 ac yno y bu hyd at ddiwedd ei oes. Fe wnaeth athroniaeth Santayana alluogi iddo dderbyn rhyfel mawr arall yn dawel ac yn bwyllog, a phenderfynodd fyw o'r neilltu. Adlewyrchir ei feudwyaeth yn ei ysgrifeniadau ar ôl dechrau'r Ail Ryfel Byd ym 1939, sydd yn ymdrin â materion ysbrydol a materol trwy ddatgysylltiad moesol. Cymerodd ystafelloedd mewn cartref nyrsio Catholig, ac yno ysgrifennodd ei hunangofiant, Persons and Places, a gyhoeddwyd mewn tair cyfrol (1944, 1945, a 1953). Bu farw George Santayana, yn 88 oed, ar 26 Medi 1952. Fe'i claddwyd, yn ôl ei ddymuniadau, ym mhantheon Sbaenaidd y fynwent Gatholig yn y Campo Verano.
Ffuglen a barddoniaeth
[golygu | golygu cod]Casgliad o sonedau a cherddi eraill oedd llyfr cyntaf Santayana, Sonnets and Other Verses, a gyhoeddwyd ym 1894. Ei nofel fwyaf poblogaidd yw The Last Puritan (1936).
Athroniaeth
[golygu | golygu cod]Llyfr ysgolheigaidd cyntaf Santayana oedd Sense of Beauty (1896), cyfrol ar bwnc estheteg.
Ffurf ar naturiolaeth yw athroniaeth Santayana, a dylanwadwyd yn gryf arni gan Bragmatiaeth ei gyfoeswr, William James. Pwysleisiai natur fiolegol y meddwl yn ogystal â'i alluoedd creadigol a rhesymegol. Roedd yn sgeptigol ynglŷn â phrofi bodolaeth mater, ac awgrymai bod credoau bodau dynol yn deillio o "ffydd anifeilaidd". Derbyniai hefyd fodolaeth haniaethau cyffredinol neu hanfodion, cysyniad metaffisegol yn debyg i ddamcaniaeth Platon o "ffurfiau". Cynhwysir ei syniadau athronyddol yn The Life of Reason (pum cyfrol, 1905–06), Scepticism and Animal Faith (1923), The Realm of Essence (1927), The Realm of Matter (1938), a The Realm of Spirit (1940).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) George Santayana. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Tachwedd 2021.
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- D. Cory, Santayana: The Later Years (1963).
- Genedigaethau 1863
- Marwolaethau 1952
- Academyddion Prifysgol Harvard
- Academyddion o Sbaen
- Athronwyr y 19eg ganrif o Sbaen
- Athronwyr yr 20fed ganrif o Sbaen
- Beirdd y 19eg ganrif o Sbaen
- Beirdd yr 20fed ganrif o Sbaen
- Beirdd Saesneg o Sbaen
- Cyn-fyfyrwyr Coleg y Brenin, Caergrawnt
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Harvard
- Dyneiddwyr o Sbaen
- Hunangofianwyr Saesneg o Sbaen
- Nofelwyr y 19eg ganrif o Sbaen
- Nofelwyr yr 20fed ganrif o Sbaen
- Nofelwyr Saesneg o Sbaen
- Pobl o Fadrid
- Sonedwyr Saesneg
- Ysgrifwyr a thraethodwyr y 19eg ganrif o Sbaen
- Ysgrifwyr a thraethodwyr yr 20fed ganrif o Sbaen
- Ysgrifwyr a thraethodwyr Saesneg o Sbaen
- Ysgolheigion Saesneg o Sbaen