Francisco Coloane
Gwedd
Francisco Coloane | |
---|---|
Ganwyd | Francisco Coloane Cárdenas 19 Gorffennaf 1910 Quemchi |
Bu farw | 5 Awst 2002 Santiago de Chile |
Dinasyddiaeth | Tsile |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, person milwrol, awdur storiau byrion, nofelydd |
Plaid Wleidyddol | Sigma Party of Chile |
Mudiad | Generation of '38 |
Gwobr/au | Gwobr Genedlaethol am Lenyddiaeth, chevalier des Arts et des Lettres, Urdd Teilyngdod Diwylliannol Gabriela Mistral |
Nofelydd ac awdur straeon byrion o Tsile oedd Francisco Coloane (19 Gorffennaf 1910 – 5 Awst 2002) sy'n nodedig am ei ffuglen antur, yn enwedig straeon am y môr.
Ganwyd yn Quemchi ar ynys Chiloé a threuliodd ei ieuenctid yn neheudir y wlad. Symudodd i Santiago i weithio'n newyddiadurwr.
Enillodd wobr Llyfr Tsileaidd y Flwyddyn am ei gyfrol Golfo de penas (1945),[1] a derbyniodd y Wobr Lenyddol Genedlaethol yn 1964.[2] Cyhoeddodd ei hunangofiant, Los pasos del hombre, yn 2000. Bu farw yn Santiago yn 92 oed.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Casgliadau o straeon byrion
[golygu | golygu cod]- Cabo de Hornos (1941)
- Golfo de penas (1945)
- Tierra del fuego (1956)
Nofelau
[golygu | golygu cod]- El último grumete de La Baquedano (1941)
- Los conquistadores de la Antártida (1945)
Hunangofiant
[golygu | golygu cod]- Los pasos del hombre (2000)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Francisco Coloane. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 4 Medi 2019.
- ↑ Celina Manzoni, "Coloane, Francisco" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003, golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain: Routledge, 2004), t. 146.
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- D. Petreman, La obra narrativa de Francisco Coloane (Santiago: Editorial Universitaria, 1987)