Faith Kipyegon
Gwedd
Faith Kipyegon | |
---|---|
Ganwyd | 10 Ionawr 1994 Bomet |
Man preswyl | Iten |
Dinasyddiaeth | Cenia |
Galwedigaeth | rhedwr pellter canol, cystadleuydd yn y Gemau Olympaidd |
Taldra | 1.57 metr |
Pwysau | 43 cilogram |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | Cenia |
Rhedwr pellter canol Cenia yw Faith Chepngetich Kipyegon (ganed 10 Ionawr 1994)[1] sydd wedi dal record byd am redeg sawl ras: 1,500m, milltir a 5,000m.
Enillodd hi ddwy fedal aur ym Mhencampwriaethau'r Byd 2023 yn Budapest yn y ras 1,500m a'r 5,000m, y fenyw gyntaf erioed i wneud hyn.[2] Torrodd hi'r record byd yn y rasys 1,500m, milltir a 5,000m, yn yr un tymor.[2]
Enillodd fedal aur yn y ras 1,500 metr yng Ngemau Olympaidd 2024 ym Mharis a thorrodd ei record Olympaidd ei hun pan enillodd dair medal aur 1,500m Olympaidd yn olynol — y fenyw gyntaf erioed i wneud hynny.[3][4]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Gŵr Kipyegon yw'r athletwr Timothy Kitum[5] ac mae ganddyn nhw ferch o'r enw Alyne.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Faith KIPYEGON". World Athletics. Cyrchwyd 10 Awst 2024.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Ewing, Lori (26 Awst 2023). "Kenya's Kipyegon becomes first woman to claim 1500-5000 double at worlds". Reuters (yn Saesneg). Cyrchwyd 10 Awst 2024.
- ↑ Wanjala, Emmanuel (10 Awst 2024). "Kenya strikes double gold in 800m and 1500m as Kipyegon sets Olympic record". The Star (yn Saesneg). Kenya. Cyrchwyd 10 Awst 2024.
- ↑ Kuzma, Cindy (10 Awst 2024). "Faith Kipyegon—the GOAT—Wins Third Straight Olympic 1500-Meter Gold Medal". Runners World (yn Saesneg). Cyrchwyd 10 Awst 2024.
- ↑ "The Magic Call that Spurred Faith Kipyegon deliver historic Olympics three-peat in Paris". Capital FM Kenya (yn Saesneg). 11 Awst 2024. Cyrchwyd 11 Awst 2024.