Elfen Grŵp 13
Grŵp → | 13 |
---|---|
↓ Cyfnod | |
2 | 5 B |
3 | 13 Al |
4 | 31 Ga |
5 | 49 In |
6 | 81 Tl |
Enw arall y teulu hwn o elfennau ydy'r Grŵp Boron. Grŵp o un-deg-tri o elfennau (metalau tlawd) a nodir yn y tabl cyfnodol ydy Grŵp 13. Yn nhrefn safonnol IUPAC mae grŵp 13 yn cynnwys: boron (B), alwminiwm (Al), galiwm (Ga), indiwm (In), thaliwm (Tl) ac ununtriwm (Uut).
Mae patrwm yr electronnau rhwng aelodau unigol y teulu yn debyg iawn, yn enwedig ar du allan y gragen, ac oherwydd hyn mae eu hymddygiad yn debyg hefyd:
Z | Elfen | Nifer yr electronnau |
---|---|---|
5 | boron | 2, 3 |
13 | alwminiwm | 2, 8, 3 |
31 | galiwm | 2, 8, 18, 3 |
49 | indiwm | 2, 8, 18, 18, 3 |
81 | thaliwm | 2, 8, 18, 32, 18, 3 |
Ymhlith yr enwau eraill a gafwyd dros y blynyddoedd ar Grŵp 13 y mae: "metalau'r ddaear" a'r "trielau" a ddaw o'r Lladin 'tri' gan mai hen enw'r grŵp oedd IIIB. Priodwedd, neu nodwedd pennaf y grŵp yw fod gan bob elfen dri electron ar y tu allan - yn yr haen 'valence'.
Meteloid ydy boron, ac mae gweddill aelodau'r teulu yn fetalau. Mae boron yn elfen brin iawn, yn wahanol felly i alwminiwm - sef y trydydd elfen mwyaf cyffredin ar blaned Daear (4.7%).
Metaloidau | Metalau tlawd | mae'r rhif atomig du yn solid | mae'r ffiniau solid yn cynnwys elfennau primordaidd sy'n hŷn na'r Ddaear) | mae'r ffiniau toredig yn cynnwys dadfeiliad ymbelydrol, Elfennau synthetig |
---|