Eleanor o Aquitaine
Eleanor o Aquitaine | |
---|---|
Ganwyd | 1122 Bordeaux |
Bu farw | 1 Ebrill 1204 Poitiers |
Dinasyddiaeth | Duchy of Aquitaine |
Galwedigaeth | croesgadwr benywaidd |
Swydd | dug Aquitaine, iarll Poitiers, queen of Franks, cymar teyrn Lloegr |
Tad | Guillaume X |
Mam | Aenor de Châtellerault |
Priod | Louis VII, brenin Ffrainc, Harri II, brenin Lloegr |
Plant | Marie o Ffrainc, Alice o Ffrainc, William IX, iarll Poitiers, Harri, y brenin ieuanc, Matilda o Loegr, duges Saxony, Rhisiart I, brenin Lloegr, Geoffrey II, dug Llydaw, Eleanor o Loegr, brenhines Castile, Joanna, John, brenin Lloegr |
Perthnasau | Blanca o Gastilia, Henry I of Castile |
Llinach | Ramnulfids |
Roedd Eleanor o Aquitaine (1122 – 1 Ebrill 1204 (neu 31 Mawrth 1204)) yn frenhines yn ei thro i Louis VII, brenin Ffrainc, a Harri Plantagenet, brenin Lloegr a Comte d'Anjou, sef Harri II, brenin Lloegr. Petronilla, Iarlles Vermandois, oedd ei chwaer iau.
Alia Aenor neu Aliaenor yw ei henw go iawn, ond fe'i hadnabyddir fel Eleanor o Aquitaine. Roedd Eleanor yn wraig i Louis VII rhwng 1137 a 1152. Roedd hi'n wraig ar ôl hynny i Harri II rhwng 1153 a marwolaeth Harri yn 1189, ond cadwodd hi dan arestiad ar ôl gwrthryfel ym 1173. Trwy ei phriodasau dynastig daeth yr ymerodraeth Angevin i fodolaeth. Eleanor oedd mam y brenhinoedd Rhisiart I a John ar Loegr. Pan ddaliwyd Rhisiart yn wystl yn yr Almaen, cododd bridwerth i'w ryddhau.
Roedd Eleanor yn adnabyddus fel gwraig ddiwylliedig a noddai feirdd a llenorion fel y trwbadŵr Bernard de Ventadour.