Edward Jones Williams
Edward Jones Williams | |
---|---|
Ganwyd | 19 Gorffennaf 1857 Durham |
Bu farw | 3 Gorffennaf 1932 Pendyffryn |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | peiriannydd, peiriannydd rheilffyrdd, daearegwr |
Peiriannydd oedd Edward Jones Williams (19 Gorffennaf 1857 – 3 Gorffennaf 1932).
Ganed Edward Jones Williams yn Durham, yn fab i rieni Cymraeg o Sir y Fflint a Sir Ddinbych. Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg Treffynnon, ond gan na allai ei dad fforddio addysg brifysgol iddo, ymrwymodd ei dad ef i brentisiaeth gyda Joseph J. Williams, prif beiriannydd mwyngloddio'r ardal, am dair blynedd i dderbyn hyfforddiant fel peiriannydd mwyngloddio a thirfesurydd. Ar ôl blwyddyn o brentisiaeth, ysgrifennodd draethawd yn dwyn y teitl 'The Mineral Resources of Denbighshire and Flintshire' a gyhoeddwyd yn Journal of the Geological Society yn Llundain. Yn ystod trydedd flwyddyn ei brentisiaeth, enillodd fedal ac £20 yn Eisteddfod Genedlaethol 1878 am lawlyfr Cymraeg ar Ddaeareg.
Er gwaethaf ei brofiad ym maes Daeareg, Peirianwaith Mwyngloddio a Thirfesureg, ni lwyddodd i gael swydd ac ar ddiwedd 1880 felly, ymunodd gyda'i rieni a gweddill y teulu ar y daith i Batagonia. Arhosodd Edward yn Buenos Aires i ymgyfarwyddo â sefydliadau peirianyddol proffesiynol yr Ariannin a meistroli termau'r proffesiwn yn Sbaeneg. Tra'r oedd yno, gwnaeth gysylltiadau gwerthfawr yn y byd masnachol a llywodraethol.
Yn y Wladfa, manteisiodd ar y profiad a gafodd fel prentis gan fynd ati i greu rhwydwaith o ffosydd a mesur y tir ac yn 1884 aeth i chwilio am le i osod trac rheilffordd arfaethedig. Mae ei lyfr nodiadau yn adlewyrchu manylder ei gynlluniau.
Yn 1890, dychwelodd i Gymru i briodi Mary Elizabeth Price ar 9 Rhagfyr a ganed 6 o blant iddynt.
Mewn teyrnged iddo gan Y Parch R J Jones, Prestatyn, dywedodd ei fod yn un o genhedlaeth o ymfudwyr a ddylanwadodd ar fywyd y Wladfa o ran masnach a chrefydd. Gydag eraill dechreuodd Arddangosfa Amaethyddol a arweiniodd at ddatblygu a gwella amaethyddiaeth a garddwriaeth. Roedd yn gefnogwr brwd o eisteddfodau a chyfarfodydd llenyddol; gweithiodd yn ddiflino i hybu cariad at lenyddiaeth Gymraeg ymysg yr ifanc ac i feithrin yr iaith. Bu'n gadeirydd Cymdeithas Fasnachol y Camwy ac roedd yn athro Ysgol Sul yng Nghapel Tabernacl Trelew.
Gadawodd y teulu'r Wladfa ym mis Gorffennaf 1907 a dychwelyd i Gymru ond ym mis Ebrill 1908 teithiodd Edward yn ôl i'r Wladfa am flwyddyn yn unig i greu estyniad i'r rheilffordd i'r Gaiman. Aeth â'i ddau fab, Iorwerth a William Penri, gydag ef. Parhaodd i weithio ar gynlluniau i ymestyn y rheilffordd a chreu cynlluniau i adeiladu melin ddŵr.
Ar ôl dychwelyd i Gymru bu'r teulu'n byw yn Grange Mount, Y Rhyl, cyn symud i Bendyffryn ym mis Mawrth 1914 ac yno y bu Edward Jones Williams farw ar 3 Gorffennaf 1932.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Eirionedd Baskerville, Cydymaith i'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia Archifwyd 2022-01-14 yn y Peiriant Wayback
- Kenneth Skinner, Railway in the Desert (Wolverhampton, 1984).
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Y Wladfa, Cymdeithas Cymru-Ariannin
- Glaniad Archifwyd 2016-08-08 yn y Peiriant Wayback Gwefan deirieithog sy'n adrodd hanes sefydlu'r Gwladfeydd Cymreig ym Mhatagonia
- Andes Celtig Gwefan deirieithog sydd â gwybodaeth a mapiau o'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia
- Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia, gan Abraham Mathews (1894), ar wefan Internet Archives
- Hanes y Wladva Gymreig, Tiriogaeth Chubut, gan L. J. Luis Jones (1898), ar wefan Internet Archives