Neidio i'r cynnwys

Dwnsiwn y Dis

Oddi ar Wicipedia
Dwnsiwn y Dis
DylunioTerry Cavanagh
RhaglennuJusto Delgado Baudi
CelfMarlowe Dobbe
YsgrifennuHolly Gramazio
SainChipzel
MarchnataDana Trebella
Dyfeisiau
Dyddiad Rhyddhau13 Awst 2019

Mae Dwnsiwn y Dis (Saesneg: Dicey Dungeons) yn gêm gyfrifiadur a ddatblygwyd gan y cynlluniwr Gwyddelig, Terry Cavanagh.
Rhyddhawyd Dwnsiwn y Dis i Microsoft Windows, MacOS, a Linux, ym mis Awst 2019, i Nintendo Switch ym mis Rhagfyr 2020, i Xbox One a Xbox Series X/S ym mis Tachwedd 2021, i iOS ac Android ym mis Gorffennaf 2022, ac i PlayStation 4 a PlayStation 5 ym mis Chwefror 2023.

Chwarae

[golygu | golygu cod]

Mae Dwnsiwn y Dis yn cyfuno cynnwys o gemau roguelike gyda gemau adeiladu-dec.
Mae'r Foneddiges Lwc yn troi'r chwaraewr yn ddis. Rhaid iddyn nhw frwydro trwy ddwnsiwn gan ddefnyddio dis ac amryfal o offer i ennill eu rhyddid.

Cymraeg

[golygu | golygu cod]

Ym mis Medi 2020, cafodd y gêm ei chyfieithu i'r Cymraeg gan Morgan Roberts. Ar yr un amser, cafodd y gêm gyfieithiad Japaneg gyda chynnwys newydd.