Demòcrates de Catalunya
Democratiaid Catalwnia Demòcrates de Catalunya | |
---|---|
Arweinydd | Antoni Castellà i Clavé Núria de Gispert i Català Joan Rigol i Roig |
Sefydlwyd | 12 Gorffennaf 2015 |
Holltwyd oddi wrth | Unió Democràtica de Catalunya (UDC) |
Pencadlys | Barcelona |
Rhestr o idiolegau | Democratiaeth Cristnogol Annibyniaeth |
Sbectrwm gwleidyddol | Canol-dde |
Llywodraeth Catalonia | 3 / 135
|
Rhanbarthau Catalonia (Cynghorwyr) | 118 / 9,077
|
Gwefan | |
www.democrates.cat |
Plaid democrataidd, Crstnogol sydd dros annibyniaeth i Gatalwnia yw Demòcrates de Catalunya (neu'n fyr: DC; Cymraeg: Democratiaid Catalwnia. Fe'i ffurfiwyd yng Ngorffennaf 2015 gan Antoni Castellà i Clavé, Núria de Gispert i Català a Joan Rigol i Roig - cyn-aelodau o'r d'Unió Democràtica de Catalunya oherwydd eu bod yn dymuno polisiau ac ymlyniad cryfach tuag at Annibyniaeth i Gatalwnia.[1] Mae'r blaid newydd hon wedi ymuno gyda chlymblaid y Junts pel Sí ('Annibyniaeth Gyda'n Gilydd') sydd hefyd yn credu mewn annibyniaeth oddi wrth Sbaen.
Un o'r ffactorau wrth wraidd ei ffurfio oedd pleidlais o tua 80% annibyniaeth yn Refferendwm Catalwnia 2014 ac y bydd canlyniad Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2015 yn cael ei ystyried yn bleidlais de facto dros neu yn erbyn annibyniaeth i'r wlad.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Junts pel Sí
- Convergència Democràtica de Catalunya
- Convergència i Unió
- Esquerra Republicana de Catalunya
- Partit dels Socialistes de Catalunya