Deborah James
Deborah James | |
---|---|
Ganwyd | 1 Hydref 1981 Llundain |
Bu farw | 28 Mehefin 2022 o canser colorectaidd Woking |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | newyddiadurwr, awdur, podcastiwr, codwr arian, athro ysgol, colofnydd, ymgyrchydd |
Gwobr/au | Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Honorary doctorate from the University of East Anglia |
Gwefan | https://www.bowelbabe.org |
Newyddiadurwr, addysgwr, gwesteiwr podlediadau ac ymgyrchydd elusennol o Lundain oedd y Fonesig Deborah Anne James DBE (1 Hydref 1981 – 28 Mehefin 2022). Ar ôl cael ddiagnosis o ganser y coluddyn anwelladwy yn 2016, dechreuodd gynnal y podlediad You, Me and the Big C ar BBC Radio 5. Y pwn oedd ei brwydrau gyda’i salwch.
Cafodd James ei geni yn Llundain, yn ferch i Heather ac Alistair James.[1] Cafodd ei haddysg yn Ysgol Salesian, Chertsey, Swydd Surrey, gan fynd ymlaen yn ddiweddarach i astudio economeg ym Mhrifysgol Caerwysg. Priododd â Sebastian Bowen a chawsant ddau o blant gyda'i gilydd.[1]
Bu James yn ddirprwy brifathrawes yn arbenigo mewn cyfrifiadureg ac e-ddysgu yn Ysgol Salesian, Chertsey. Symudodd i Ysgol Matthew Arnold yn Staines-upon-Thames lle bu'n gweithio hyd nes iddi gael diagnosis o ganser y coluddyn. Dechreuodd weithio fel newyddiadurwr a cholofnydd i'r Sun, gan fanylu ar ei thaith canser.[1] Ym mis Mawrth 2018, dechreuodd gyflwyno podlediad ar gyfer BBC Radio 5, ochr yn ochr â chyd-gleifion canser Lauren Mahon a Rachael Bland, a bu farw’r olaf ohonynt ym mis Medi 2018. [2]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Deborah James interview: 'I don't want to be a victim… being a sob story won't change anything'". The Times (yn Saesneg). 20 Ionawr 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Gorffennaf 2021. Cyrchwyd 10 Mai 2022.
- ↑ "BBC presenter Rachael Bland's final podcast revealed after her death". Digital Spy (yn Saesneg). 13 September 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Rhagfyr 2021. Cyrchwyd 10 Mai 2022.
- ↑ "Deborah James: how to live it up when you're dying". The Times (yn Saesneg). 9 Gorffennaf 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Gorffennaf 2021. Cyrchwyd 10 Mai 2022.
- ↑ "Deborah James: 'We threw everything at COVID. Why can't we do the same for cancer'". The Daily Telegraph (yn Saesneg). 1 Hydref 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Chwefror 2022. Cyrchwyd 10 Mai 2022.