De Humani Corporis Fabrica
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig, traethawd |
---|---|
Awdur | Andreas Vesalius |
Gwlad | yr Eidal |
Iaith | Lladin, Lladin y Dadeni |
Dyddiad cyhoeddi | 1543 |
Prif bwnc | Anatomeg ddynol |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Llyfr yn yr iaith Ladin am ffisioleg gan Andreas Vesalius yw De Humani Corporis Fabrica Libri Septem ("Ynglŷn â ffurfiad y corff dynol mewn saith llyfr"). Cyhoeddwyd argraffiad cyntaf gan Johannes Oporinus yn Basel, y Swistir, yn 1543; mae gan y llyfr cyflwyniad i Siarl V, Ymerawdwr Glân Rhufeinig. Dyma'r datblygiad pwysicaf ym maes anatomeg ers cyfnod Galen (1g OC). Mae strwythur y corff yn cael ei ddangos mewn cyfres hir (mwy na 250) o dorluniau pren manwl.
Rhennir y gyfrol yn saith llyfr.
- Llyfr 1 (40 o benodau): yr esgyrn a'r cartilag
- Llyfr 2 (62 o benodau): y tennynnau a'r cyhyrau
- Llyfr 3 (15 o benodau): y gwythiennau a'r rhydwelïau
- Llyfr 4 (17 o benodau): y nerfau
- Llyfr 5 (19 o benodau): yr organau treulio a'r organau cenhedlu
- Llyfr 6 (16 o benodau): y galon ac organau eraill y thoracs
- Llyfr 7 (19 o benodau): yr ymennydd
Oriel
[golygu | golygu cod]Detholiad o'r darluniau:
-
tud. 163
-
tud. 164
-
tud. 190
-
tud. 203
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- De Humani Corporis Fabrica, argraffiad cyntaf (1543) yn Llyfrgell Prifysgol Basel
- De Humani Corporis Fabrica, detholiad o'r darluniau'r argraffiad cyntaf (1543)