Cwm Elan
Math | dyffryn, ardal gadwriaethol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 70 mi² |
Cyfesurynnau | 52.2622°N 3.5886°W |
Statws treftadaeth | International Dark Sky Park |
Manylion | |
Cwm ger Rhaeadr Gwy ym Mhowys yw Cwm Elan, sef dyffryn afon Elan.
Ardal Cwm Elan
[golygu | golygu cod]Mae'n ardal brydferth a diarffordd wrth odre bryniau Elenydd ac ychydig i'r gogledd o Raeadr Gwy. Mae'n gorchuddio 70 milltir sgâr (180 km2) - yn ddŵr ac yn dir amaethyddol, Llyn Elan a phentref Elan. Mae dros 80% o'r dyffryn wedi'i nodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Agorwyd y cyntaf o gronfeydd Elan ar yr 21 Gorffennaf 1904 er mwyn cyflenwi dŵr i ddinas Birmingham yn Lloegr. Cafodd dros gant o'r gweithwyr a oedd yn codi'r argae eu lladd yn ystod y gwaith. Dioddefodd y bobl leol hefyd. Bu rhaid i tua chant o'r trigolion symud o'u cartrefi. Diflannodd yr ysgol, yr eglwys a'r capel, ynghyd â nifer o ffermydd a bythynnod.
Cymunedau Cymreig a ddinistrwyd |
---|
Cwm Tryweryn (1965) |
Mynydd Epynt (1949) |
Cwm Elan (1893) |
Llanwddyn (1888) |
WiciBrosiect Cymru |
Cronfeydd Cwm Elan
[golygu | golygu cod]Tua'r adeg hon y crewyd cronfa Claerwen, i'r gorllewin o Gwm Elan. Mae'r dwr yn llifo oddi yma i Loegr drwy draphont a phibell ddŵr Elan - Birmingham.
Mae'r SAS (byddin cudd Lloegr) yn ymarfer yn yr ardal.
-
Arwyddbost Cwm Elan gyda slogan 'Cofiwch Cwm Elan' yn adlais o slogan enwog Cofiwch Dryweryn yn cofnodi boddi'r cwm i greu cronfa ddŵr
-
Arwyddbost Cronfa ac Argae ddŵr Caban Coch
-
Cronfa ac Argae Caban Coch
-
Argae Cronfa Craig Goch, Cwm Elan
-
Cronfa Ddŵr Craig Goch yn y gaeaf
-
Un o'r tai'n dod i'r golwg yn sychdwr yr 1910au, wrth i lefel un o lynnoedd dyffryn Elan ostwng
-
Hen fwynglawdd plwm yng Nghwm Elan