Cosb
Gwedd
Dioddefaint neu golled a orfodir i wneud iawn am ddrygioni yw cosb.[1] Ymhlith ei chymhellion mae dial, atal eraill rhag gwneud drwg, ac ailsefydlu'r drwgweithredwr yn y gymuned. Mae cosbau am droseddu yn amrywio o ddirwyon i garchariad a'r gosb eithaf. Penydeg yw'r enw ar astudiaeth y system gosb. Y tu allan i system gyfiawnder y gyfraith, mae cosb yn agwedd o fywyd pob dydd yn y cartref, yr ysgol, a'r gweithle.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ cosb. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 30 Tachwedd 2016.