Cliff Wilson
Cliff Wilson | |
---|---|
Ganwyd | 10 Mai 1934 Tredegar |
Bu farw | 21 Mai 1994 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | chwaraewr snwcer |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Chwaraewr snwcer proffesiynol o Gymru oedd Cliff Wilson (10 Mai 1934 – 21 Mai 1994[1]). Daeth yn Bencampwr Amatur y Byd 1978. Ar ôl troi'n broffesiynol, cyrhaeddodd 16 uchaf y byd ym 1988 pan oedd yn 54 oed, er gwaethaf golwg gwael iawn a nifer o anhwylderau eraill.
Blynyddoedd amatur
[golygu | golygu cod]Roedd Wilson yn chwaraewr snwcer amatur talentog a fagwyd yn Nhredegar, yr un dref â'i gyfaill a'i gyd-chwaraewr snwcer Ray Reardon. Enillodd Bencampwriaeth Genedlaethol Dan-19 yn 1952 a 1953 a Phencampwriaeth Amatur Cymru ym 1956.
Ymddeoliad
[golygu | golygu cod]Roedd poblogrwydd snwcer yn gostwng yn ystod y 1950au ac roedd yn anodd iawn ymuno â'r gylchdaith broffesiynol gaëedig a bychan. Cafodd Wilson ei ddadrithio a rhoddodd y gorau i chwarae snwcer am bymtheg mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwn bu'n gweithio yn y gwaith dur yn Llanwern.[1]
Troi'n broffesiynol
[golygu | golygu cod]Adfywiodd diddordeb Wilson yn y gêm yn gynnar yn y 1970au ac, ar ôl ennill Pencampwriaeth Amatur y Byd IBSF yn 1978, trodd yn broffesiynol yn 45 oed y flwyddyn ganlynol.[1]
Cyrhaeddodd yr un ar bymtheg uchaf yn y byd am un tymor, 1988/89, cyflawniad rhyfeddol i berson o'i oed (55 oed). Yn ddiweddarach, aeth ymlaen i ennill Pencampwriaeth gyntaf y Byd i Bobl Hŷn yn 1991 (gan guro Eddie Charlton 5–4 yn y rownd derfynol), ar y pryd yn cael gwobr o £16,000, ei wobr mwyaf yn ystod ei yrfa.
Roedd yn cael ei adnabod fel chwaraewr cyflym a pheryglus; ond, er iddo chwarae ym Mhencampwriaeth y Byd yn yTheatr y Crucible wyth gwaith, ni symudodd ymlaen y tu hwnt i'r rownd gyntaf erioed - record y mae'n ei rhannu gyda Rex Williams.
Chwaraeodd yn erbyn Ronnie O'Sullivan ifanc ym mhencampwriaeth y DG yn 1992 gan ennill 9–8.[1] Aeth O'Sullivan yn ei flaen y flwyddyn ganlynol i ennill y bencampwriaeth.
Ei rediad uchaf yn ei yrfa oedd 136, a hynny yn Grand Prix 1989.
Salwch a marwolaeth
[golygu | golygu cod]Tua diwedd ei oes, dioddefodd Wilson nifer o broblemau gyda'i gefn, ei ben-glin a'i galon, a dioddefodd o 'glefyd anweithredol o'r afu a'r pancreas'. Er hynny, parhaodd i chwarae'n broffesiynol a chyrraedd canrif yn y Bencampwriaeth Ryngwladol Agored ym mis Ionawr 1994. Bu farw ym mis Mai y flwyddyn honno. Roedd yn 60 oed.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 Hodgson, Guy (27 May 1994). "Obituary: Cliff Wilson". The Independent. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2013-01-16.
- ↑ "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 March 2016. Cyrchwyd 2016-03-31. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help)CS1 maint: archived copy as title (link)