Clement Davies
Clement Davies | |
---|---|
Ganwyd | 19 Chwefror 1884 Llanfyllin |
Bu farw | 23 Mawrth 1962 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, bargyfreithiwr |
Swydd | arweinydd y Blaid Ryddfrydol, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 42fed Llywodraeth y DU, Aelod o 41fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 40fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 39fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 38ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 37ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 36fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 35ed Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Priod | Jano Elizabeth Davies |
Plant | Stanley Clement-Davies |
Gwleidydd o Gymro oedd Clement Edward Davies (19 Chwefror 1884 – 23 Mawrth 1962). Gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Maldwyn o 1929 i 1962 ac arweinydd Y Blaid Rhyddfrydol rhwng 1945 a 1956.[1]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Ganwyd Davies yn Llanfyllin, y ieuengaf o saith blentyn Moses Davies, arwerthwr ac henadur ar Gyngor Sir Drefaldwyn ac Elizabeth Margaret (née Jones) ei wraig. Cafodd ei addysgu yn ysgol Sir Llanfyllin a Neuadd y Drindod, Caergrawnt lle raddiodd gyda gradd dosbarth gyntaf yn y gyfraith ym 1907.[2]
Priododd Jano Elizabeth Davies, merch fabwysiedig Morgan Davies, llawfeddyg Cymreig amlwg yn Llundain; bu iddynt tri mab ac un ferch, ond bu dau o'r meibion a'r ferch marw yn eu hugeiniau.[3] Bu farw eu mab hynaf, David, ym 1939 o ganlyniad i achosion naturiol cysylltiedig ag epilepsi, bu i'r ferch, Mary, marw drwy hunanladdiad ym 1941 a chafodd mab arall, Geraint, ei ladd ar wasanaeth filwrol ym 1942.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Wedi graddio o Gaergrawnt bu Davies yn darlithio yn y gyfraith yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth[4] o 1908 i 1909 cyn cael ei alw i'r Bar yn Lincoln's Inn. Bu'n gweithredu fel bargyfreithiwr yng Nghylchdaith Gogledd Cymru am flwydd cyn symud i Gylchdaith Gogledd Lloegr ym 1910.
Ar doriad y Rhyfel Byd Cyntaf ym 1914 gwirfoddolodd Davies ar gyfer gwasanaeth milwrol, ond cafodd ei bostio yn lle hynny i swyddfa'r Procuradur Cyffredinol fel cynghorydd ar weithgareddau'r gelyn mewn gwledydd niwtral ac ar y môr, wedyn cafodd secondiad i adran masnachu gyda'r gelyn y Bwrdd Masnach.
Wedi'r rhyfel bu'n ysgrifennydd i lywydd y Llys Profiant, Ysgariad, a'r Morlys o 1918 i 1919. Bu'n ysgrifennydd i Feistr y Rholiau o 1919 i 1923 ac o 1919 hyd 1925 bu'n gwnsler iau i'r Trysorlys.
Fe'i gwnaed yn Gwnsler y Brenin ym 1926.
O 1935 hyd ei farwolaeth bu'n gwasanaethu fel cadeirydd Llysoedd Sesiwn Chwarterol Sir Drefaldwyn.
Rhoddodd y gorau i'w waith gyfreithiol ym 1930 pan ymunodd â bwrdd cwmni Unilever, gan barhau'n aelod o'r bwrdd hyd 1941 pan ymddiswyddodd er mwyn canolbwyntio ar ei waith gwleidyddol.
Gyrfa wleidyddol
[golygu | golygu cod]Cafodd Davies ei ethol i Dŷ'r Cyffredin yn Etholiad Cyffredinol 1929 fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol Sir Drefaldwyn. Yn fuan wedi ei ethol, ym 1931, rhannodd y Blaid Ryddfrydol yn dri grŵp gyda Davies yn ymuno â grŵp y Rhyddfrydwyr Cenedlaethol a oedd yn cefnogi'r Llywodraeth. Daeth dan bwysau cynyddol gan ei gymdeithas Ryddfrydol leol a'i ragflaenydd fel Aelod Seneddol, yr Arglwydd Davies i ymuno â'r wrthblaid[5]. Ym 1939, ymddiswyddodd o'r Rhyddfrydwyr Cenedlaethol a chwip y Llywodraeth Genedlaethol, er hynny ym 1940, fe fu'n gadeirydd y Grŵp Gweithredu Holl Bleidiol a oedd yn pwyso am lywodraeth unedig i reoli dros gyfnod yr Ail Ryfel Byd gan chwarae rôl sylweddol yn yr ymgyrch i orfodi ymddiswyddiad y Prif Weinidog, Neville Chamberlain.
Yn ystod ei gyfnod fel aelod o'r meinciau cefn bu Davies yn gwasanaethu ar nifer o bwyllgorau, gan wneud gwaith bellgyrhaeddol ym maes iechyd cyhoeddus. Bu'n gadeirydd ar ymchwiliad i achosion y ddarfodedigaeth yng Nghymru rhwng 1937 a 1938 ymchwiliad a daeth o hyd i ddiffygion difrifol o ran darparu gwasanaethau iechyd cyhoeddus a thai, er bu'n rhaid disgwyl tan ddiwedd y Rhyfel cyn gweithredu ar argymhellion ei bwyllgor, bu ei waith yn garreg filltir bwysig yn natblygiad gweinyddiaeth iechyd yng Nghymru.
Arweinydd y Blaid Ryddfrydol
[golygu | golygu cod]Ym 1945 collodd Archibald Sinclair, Arweinydd y Blaid Ryddfrydol, ei sedd, ac mewn chwalfa i'w blaid bu Davies yn un o ddim ond dwsin o aelodau Rhyddfrydol i gael eu dychwelyd i Dŷ'r Cyffredin. Roedd chwech o'r ASau yn aelodau newydd o'r Tŷ, gan adael y blaid efo pwll bas o ddarpar arweinwyr newydd; ymysg yr hen bennau roedd David Lloyd George, a oedd yn amlwg, yn tynnu at derfyn ei yrfa wleidyddol a Megan Lloyd George, benyw mewn cyfnod pan oedd y cysyniad o AS benywaidd yn newyddbeth, a'r cysyniad o arweinydd plaid fenywaidd yn chwyldroadol o hurt; cafodd Davies ei ethol fel arweinydd newydd y Blaid yn ddiofyn, braidd, yn niffyg dewis amgen. Roedd Davies, ei hun, yn gweld ei etholiad i'r arweinyddiaeth fel dewis "gofalwr" wrth ddisgwyl i Sinclair cael ei ail ethol mewn isetholiad, ond methodd Sinclair i gael ei ail ethol, gan hynny, bu Davies yn arwain y blaid am gyfnod o ddeuddeng mlynedd.
Cafodd Davies ei godi i'r Cyfrin Gyngor ym 1947.
Cyfnod o drai pellach i'r Rhyddfrydwyr bu cyfnod Davies fel arweinydd, ond cyfnod o gadw'r blaid yn fyw hefyd. Gwrthododd cais gan Winston Churchill am gytundeb etholiadol yn etholiad cyffredinol 1950, gwrthododd cynnig sedd yng nghabinet Churchill ym 1951 a chynnig Churchill i'r ddwy blaid uno yn yr un flwyddyn. Oni bai am Davies fyddai'r Blaid Ryddfrydol heb barahu i fodoli a gweld y cynnydd yn ei gynrychiolaeth Seneddol o dan Jo Grimond, Jeremy Thorpe na David Steel, cyn i'r Blaid Ryddfrydol darfod trwy uno a'r SDP ym 1987.
Roedd Davies yn lladmerydd y syniad o Un Llywodraeth i'r Byd i Gyd, ac yn llywydd y Gymdeithas Seneddol dros Lywodraeth Bydol; cafodd ei enwebu am Wobr Heddwch Nobel ym 1955 am ei gyfraniad at geisio creu Llywodraeth Byd Eang, ond ni fu'r enwebiad yn llwyddiannus.
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Ers colli tri o'i blant yn olynol rhwng 1939 a 1942, bu Davies yn ceisio cysur trwy or-yfed, a bu'n byw efo cyflwr alcoholiaeth hyd iddi achosi ei farwolaeth mewn clinig yn Llundain yn 68 mlwydd oed.[6]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Alun Wyburn-Powell, Clement Davies: Liberal Leader (Llundain: Politico's, 2003)
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Francis Boyd, "Davies, Clement Edward (1884–1962)", rev. Mark Pottle, Oxford Dictionary of National Biography (Oxford University Press, 2004); ar-lein, adalwyd 8 Ionawr 2016
- ↑ "DAVIES, CLEMENT EDWARD (1884 - 1962)", Y Bywgraffiadur Cymreig; adalwyd 8 Ionawr 2016
- ↑ "DAVIES, Rt Hon. Clement (Edward)", Who Was Who, (A & C Black, 1920–2016); ar-lein, adalwyd 8 Ionawr 2016]
- ↑ "ABERYSTWYTH - Y Negesydd". Cwmni Gwasg Idris. 1907-12-19. Cyrchwyd 2016-01-08.
- ↑ Dutton, David Liberals in Schism: A History of the National Liberal Party
- ↑ "Mr. Clement Davies." The Times, 24 Mawrth 1962
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: David Davies |
Aelod Seneddol dros Faldwyn 1929 – 1962 |
Olynydd: Emlyn Hooson |
Swyddi gwleidyddol | ||
Rhagflaenydd: Archibald Sinclair |
Arweinydd y Blaid Ryddfrydol 1945 – 1956 |
Olynydd: Jo Grimond |