Chiara Lubich
Chiara Lubich | |
---|---|
Ganwyd | 22 Ionawr 1920 Trento |
Bu farw | 14 Mawrth 2008 Rocca di Papa |
Man preswyl | Rocca di Papa |
Dinasyddiaeth | Yr Eidal |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, athro, amddiffynnwr hawliau dynol |
Mudiad | Focolare Movement |
Perthnasau | Paolo Berlanda |
Gwobr/au | Croes Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Gwobr Templeton, Gwobr Hawliau Dynol Ewropeaidd, Urdd Croes y De, Dinasyddiaeth Anrhydeddus Palermo, Marchog Uwch-Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, honorary doctorate from the Catholic University of Lublin, UNESCO Prize for Peace Education |
Awdures o'r Eidal oedd Chiara Lubich (22 Ionawr 1920 - 14 Mawrth 2008) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel sefydlydd y Mudiad Focolare, athro a chlerigwr.[1][2][3][4][5]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ganed Silvia Lubich yn Trento, yr Eidal a bu farw yn Rocca di Papa, sef un o faestrefi Rhufain. Collodd ei thad ei swydd yn ystod cyfnod Ffasgiaeth yr Eidal, oherwydd ei syniadau sosialaidd. O ganlyniad, roedd y Lubichs yn byw am flynyddoedd mewn tlodi eithafol. I dalu am ei hastudiaethau ym Mhrifysgol Ca' Foscari mewn athroniaeth, bu Lubich yn hyfforddi myfyrwyr eraill yn Fenis ac yn ystod y 1940au dechreuodd ddysgu mewn ysgol elfennol yn Trento.[6] [7][8]
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, tra bod bomiau'n dinistrio Trento, cafodd Lubich brofiad crefyddol pwerus a newidiodd ei bywyd am byth. Dywedodd Lubich am y profiad hwn wrth ei ffrindiau agosaf.[9] Ar ôl argyhoeddi ei ffrindiau, pe baent yn cael eu lladd, roeddent roi un arysgrif cerfiedig ar eu beddau: "A chredom mewn cariad". Ar 7 Rhagfyr 1943 arweiniodd ei phrofiad hi i gysegru ei hun i Dduw a newid ei henw i Chiara, er anrhydedd i Chiara o Assisi. Ystyrir y dyddiad hwn fel dechrau'r mudiad Focolare.[10]
Cymunedau bychain o wirfoddolwyr lleyg yw'r Focolare, sy'n ceisio cyfrannu at heddwch ac i sicrhau undod efengylaidd pawb ym mhob amgylchedd cymdeithasol. Nod y mudiad yw byd sy'n byw mewn undod efengylaidd ym mhob haen o gymdeithas. Heddiw ymhlith ei aelodau mae llawer o bobl nad ydynt yn arddel crefydd benodol.[11]
Gwynfydiad
[golygu | golygu cod]Yn 2013, bum mlynedd ar ôl marwolaeth Chiara Lubich, cafodd ei hachos dros ei gwynfydu ei sefydlu'n ffurfiol wedyn gan Esgobaeth Frascati, lle daeth miloedd i weld sefydlu ei hachos. Ymhlith y rhai a oedd yn bresennol oedd y cyd-sefydlydd, sef y Tad. Pasquale Foresi.[12][13]
Cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod]- Essential Writings: Spirituality Dialogue Culture - New City (16 Feb 2007) - ISBN 1-905039-01-8, ISBN 978-1-905039-01-2
- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Croes Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Gwobr Templeton (1977), Gwobr Hawliau Dynol Ewropeaidd, Urdd Croes y De, Dinasyddiaeth Anrhydeddus Palermo, Marchog Uwch-Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, honorary doctorate from the Catholic University of Lublin, UNESCO Prize for Peace Education (1997)[14][15][16][17] .
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Chiara Lubich". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Chiara Lubich". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Dyddiad marw: "Chiara Lubich, founder of Focolare movement, dies at 88". 14 Mawrth 2008. Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Chiara Lubich". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Chiara Lubich". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Crefydd: https://centrochiaralubich.org/en/about-chiara-lubich/.
- ↑ "Work of Mary", Pontifical Council for the Laity
- ↑ Galwedigaeth: http://www.focolare.org/pt/chiara-lubich/chi-e-chiara/. https://centrochiaralubich.org/en/about-chiara-lubich/. https://www.templetonprize.org/laureate/chiara-lubich/.
- ↑ Anrhydeddau: https://www.templetonprize.org/laureate/chiara-lubich/. https://rm.coe.int/09000016804f202f. dyddiad cyrchiad: 2020. http://www.unesco.org/archives/multimedia/document-207-Eng-2. https://unesdoc.unesco.org/ark:/48223/pf0000122926.
- ↑ Gomes, Robin. "Tenth anniversary of Chiara Lubich of Focolare Movement", Vatican News, 14 Mawrth 2018
- ↑ Focolare Movement - EN, archifwyd o y gwreiddiol ar 2009-05-11, https://web.archive.org/web/20090511224807/http://www.focolare.org/page.php?codcat1=434&lingua=EN&titolo=Chiara%20Lubich&tipo=Chiara%20Lubich
- ↑ John L. Allen Jr. (10 Mawrth 2011), Memo to a divided church: Meet the Focolare, National Catholic Reporter, http://ncronline.org/blogs/all-things-catholic/memo-divided-church-meet-focolare
- ↑ http://newsaints.faithweb.com/year/2008.htm#Lubich
- ↑ http://www.focolare.org/
- ↑ https://www.templetonprize.org/laureate/chiara-lubich/.
- ↑ https://rm.coe.int/09000016804f202f. dyddiad cyrchiad: 2020.
- ↑ http://www.unesco.org/archives/multimedia/document-207-Eng-2.
- ↑ https://unesdoc.unesco.org/ark:/48223/pf0000122926.