Castell Ystum Llwynarth
Math | castell |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Y Mwmbwls |
Sir | Sir Abertawe |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 39.8 metr |
Cyfesurynnau | 51.57706°N 4.002637°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | GM007 |
Castell canolesol ger Abertawe yw Castell Ystum Llwynarth (Saesneg: Oystermouth Castle). Fe'i lleolir yn ardal Ystum Llwynarth, ger y Mwmbwls, i'r de o Abertawe ar ymyl ogledd-ddwyreiniol penrhyn Gŵyr.
Yn yr Oesoedd Canol cynnar, roedd Ystum Llwynarth yn un o ganolfannau pwysicaf Teyrnas Gŵyr lle ceid clas a gysylltir â Sant Illtud. Yng nghyfnod y Normaniaid, cipwyd cwmwd Gŵyr o ddwylo Deheubarth a chodwyd Castell Ystum Llwynarth yn 1106 neu'n fuan ar ôl hynny gan William de Londres, arglwydd Castell Ogwr.
Daeth y castell yn un o brif ganolfannau milwrol y cwmwd Gŵyr Normanaidd. Yn 1116, prin deg mlynedd ar ôl ei godi, adfeddianwyd Gŵyr gan Ddeheubarth a gorfodi William i ffoi ar ôl llosgi ei gastell. Codwyd un arall yn ei le ond fe'i difethwyd unwaith eto gan wŷr Deheubarth yn 1137. Yn y flwyddyn 1215 cipwyd penrhyn Gŵyr gan y Cymry dan arweinyddiaeth y Tywysog Llywelyn Fawr yn ei ymgyrch mawr yn y De. Yn 1220 ailgipwyd Gŵyr gan y Saeson a rhoddodd Harri III o Loegr y cwmwd i feddiant John de Braose a adferodd gestyll Ynys Llwynarth ac Abertawe.
Erbyn y 1330au roedd arglwyddi Gŵyr wedi symud o Gastell Ystum Llwynarth a dechreuodd gyfnod o esgeulustod hir. Erbyn yr 16g doedd y castell ddim yn cael ei ddefnyddio ac erbyn y 18g roedd yn adfail. Rhoddwyd y castell i Ddinas Abertawe yn 1927.
Yn ôl traddodiad, roedd y brudiwr Rhys Fardd (neu'r 'Bardd Bach' neu'r 'Bardd Cwsg') (fl. 1460-80) yn frodor o Ystum Llwynarth.
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Castell Ystum Llwynarth ar wefan Castlewales.com