Bwrdeistref Thurrock
Gwedd
Math | ardal awdurdod unedol yn Lloegr, bwrdeisdref, ardal ddi-blwyf, plwyf sifil |
---|---|
Poblogaeth | 172,525 |
Gefeilldref/i | Mönchengladbach, Płock |
Daearyddiaeth | |
Sir | Essex (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 163.4935 km² |
Cyfesurynnau | 51.5°N 0.4167°E |
Cod SYG | E06000034, E43000029 |
GB-THR | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | council of Thurrock Council |
Awdurdod unedol yn sir seremonïol Essex, Dwyrain Lloegr, yw Bwrdeistref Thurrock (Saesneg: Borough of Thurrock).
Mae gan yr ardal arwynebedd o 163 km², gyda 174,341 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar Fwrdeistref Castle Point, Bwrdeistref Basildon a Bwrdeistref Brentwood i'r gogledd, Llundain Fwyaf i'r gorllewin, ac Aber Tafwys i'r de.
Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974, fel ardal an-fetropolitan dan reolaeth cyngor sir Essex, ond daeth yn awdurdod unedol, sy'n annibynnol ar y sir, ar 1 Ebrill 1998.
Mae'r awdurdod yn hollol ddi-blwyf. Mae ei bencadlys yn nhref Grays. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Corringham, Stanford-le-Hope a Tilbury.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 13 Gorffennaf 2020