Bond ïonig
Gwedd
Math | bondio cemegol |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn ystod bondio ïonig caiff electronnau eu trosglwyddo o un atom i atom arall i ffurfio parau o ïonau gwefredig, sef ïonau. Mae'r atom sy'n colli electron(au) yn ffurfio ïon posatif (cation), ac mae'r atom sy'n ennill electron(au) yn ffurfio ïon negatif (anion). Fel arfer metel sy'n ffurfio cation oherwydd egni ïoneiddiad isel metelau. Ffurfir yr anion o anfetel sy'n medru ennill electronau. Mae gan adeiledd electronig yr ïonau blisgyn allanol llawn, fel y nwy nobl agosaf.
Mae atom ond yn newid i ïon i gael plisgyn electronau allanol llawn sy'n ei wneud yn fwy sefydlog.