Apollodorus o Ddamascus
Gwedd
Apollodorus o Ddamascus | |
---|---|
Ganwyd | 1 g Damascus |
Bu farw | 120s Rhufain |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | pensaer, llenor, peiriannydd, cynlluniwr trefol |
Adnabyddus am | Pont Trajan, Poliorcetica |
- Am bobl eraill o'r un enw gweler Apollodorus ac Apollodorus (gwahaniaethu).
Pensaer Groegaidd o ddinas Damascus a fu'n gyfrifol am sawl gwaith pensaernïol yn Rhufain yn amser yr ymerawdwr Trajan oedd Apollodorus o Ddamascus (bu farw 129 OC).
Cafodd ei eni yn Damascus. Symudodd i weithio yn Rhufain lle daeth yn brif bensaer yr ymerawdwr Trajan. Cynlluniodd Fforwm Trajan, Cofgolofn Trajan a gweithiau eraill, ac ef hefyd a gynlluniodd y Pantheon, yn ôl pob tebyg. Ond syrthiodd dan wg yr ymerawdwr Hadrian, olynydd Trajan. Cafodd ei alltudio ganddo ac yn 129 OC fe'i dienyddwyd.
Mae ei draethawd ar beiriannau rhyfel, wedi ei chyflwyno i Hadrian, wedi goroesi.