Alpha Force
Gwedd
Cyfres o lyfrau antur ar gyfer arddegwyr gan y cyn-filwr Chris Ryan yw Alpha Force, sy'n gyn-aelod o'r Gwasanaeth Awyr Arbennig. Mae'n gyfres o ddeg llyfr.
Llyfrau
[golygu | golygu cod]Survival (2002)
[golygu | golygu cod]Cyn ffurfio tim 'Alpha force' mae'r criw yn hwylio ar gwch bach, ac yna'n mynd i guddio mewn cwch rhwyfo bach sydd wedi ei glymu ar ochr y llong, er mwyn osgoi eu hyfforddwr. Wedyn, yn y nos, mae'r rhaffau sy'n dal y cwch rhwyfo at y llong fawr yn torri ac maent yn glanio ar ynys. Ar yr ynys maent yn dod o hyd i grwp o for-ladron modern a theulu o ddreigiaid Komodo. Roedd y mor-ladron wedi cipio cwch pleser ac yn cadw'r bobl yn garcharorion. Ond mae Alpha force yn eu hachub, ac yn hedfan i ffwrdd mewn hofrennydd byddin sydd wedi cael ei anfon gan ewyrth un o'r cymeriadau.