Afon Swat
Gwedd
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Khyber Pakhtunkhwa |
Gwlad | Pacistan |
Cyfesurynnau | 34.12°N 71.72°E |
Tarddiad | Hindu Kush |
Aber | Afon Kabul |
Llednentydd | Afon Panjkora, Daral River |
Hyd | 200 cilometr |
Afon yng ngogledd Pacistan yw Afon Swat (Wrdw: دریائے سوات) sy'n llifo o'i tharddle ym mynyddoedd yr Hindu Kush trwy ddyffryn Swat i ymuno ag Afon Kabul, yn Khyber Pakhtunkhwa.
Mae'r afon yn dyfrhau rhan fawr o ddyffryn Swat. Cyfeirir ati yn y Rig Veda (8.19.37) fel Afon Suvastu. Cred rhai haneswyr fod Alexander Fawr a'i fyddin wedi croesi'r afon.
Mae dinasoedd a threfi ar ei glan yn cynnwys Mingora, dinas fwyaf Swat.