Aberdesach
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.0369°N 4.3486°W |
Cod OS | SH425514 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
Pentref bychan ar arfordir gogleddol Gwynedd yw Aberdesach ( ynganiad ). Cyfeirnod OS: SH 42682 51369. Saif ar ffordd yr A499 o Gaernarfon i Bwllheli, rhwng Pontllyfni a Chlynnog Fawr. Mae Afon Desach yn tarddu gerllaw Bwlch Derwin uwchben y pentref ac yn cyrraedd y môr ger rhan ogleddol y pentref. Ystyrir y pentref yn rhan o Ddyffryn Nantlle.
Etymoleg
[golygu | golygu cod]Credir fod yr enw 'Desach' a geir yn enwau'r afon a'r pentref o darddiad Gwyddeleg ac yn ffurf ar Déissech, sef "yn perthyn i'r Déisi." Llwyth Celtaidd o Iwerddon oedd y Déisi. Cofnodwyd Aberdindesach fel ffurf ar Aberdesach. Ystyr din yw 'dinas', sef caer. Ymddengys felly fod yr enwau lleoedd hynafol hyn yn profi bod y Déisi wedi ymsefydlu am gyfnod yn y rhan yma o Wynedd, er mai gyda Dyfed y maent yn cael eu cysylltu'n bennaf yng Nghymru.[1]
Hanes a thraddodiad
[golygu | golygu cod]Gellir gweld nifer o ffermdai mawr yn yr ardal sy'n tystio i ddylanwad Stâd Glynllifon yn yr ardal hon. Cysylltir "Penarth" gerllaw Aberdesach â "Pennardd" ym mhedwaredd cainc y Mabinogi, chwedl Math fab Mathonwy. Cysylltiad arall â'r chwedl hon yw Maen Dylan gerllaw Trwyn Maen Dylan, rhwng Aberdesach a Phontllyfni.
Mae adeiladau'r pentref ei hun yn weddol ddiweddar, a nifer ohonynt yn dai haf.
Natur
[golygu | golygu cod]Mae traeth bychan a maes parcio yn Aberdesach, sydd hefyd o ddiddordeb adaryddol fel y lle gorau yng Nghymru i weld y Trochydd mawr yn y gaeaf, yn ôl y sôn.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ R. J. Thomas, Enwau Afonydd a Nentydd Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 1938), tud. 13.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]Dinas
Bangor
Trefi
Abermaw · Y Bala · Bethesda · Blaenau Ffestiniog · Caernarfon · Cricieth · Dolgellau · Harlech · Nefyn · Penrhyndeudraeth · Porthmadog · Pwllheli · Tywyn
Pentrefi
Aberangell · Aberdaron · Aberdesach · Aberdyfi · Aber-erch · Abergwyngregyn · Abergynolwyn · Aberllefenni · Abersoch · Afon Wen · Arthog · Beddgelert · Bethania · Bethel · Betws Garmon · Boduan · Y Bont-ddu · Bontnewydd (Arfon) · Bontnewydd (Meirionnydd) · Botwnnog · Brithdir · Bronaber · Bryncir · Bryncroes · Bryn-crug · Brynrefail · Bwlchtocyn · Caeathro · Carmel · Carneddi · Cefnddwysarn · Clynnog Fawr · Corris · Croesor · Crogen · Cwm-y-glo · Chwilog · Deiniolen · Dinas, Llanwnda · Dinas, Llŷn · Dinas Dinlle · Dinas Mawddwy · Dolbenmaen · Dolydd · Dyffryn Ardudwy · Edern · Efailnewydd · Fairbourne · Y Felinheli · Y Ffôr · Y Fron · Fron-goch · Ffestiniog · Ganllwyd · Garndolbenmaen · Garreg · Gellilydan · Glan-y-wern · Glasinfryn · Golan · Groeslon · Llanaber · Llanaelhaearn · Llanarmon · Llanbedr · Llanbedrog · Llanberis · Llandanwg · Llandecwyn · Llandegwning · Llandwrog · Llandygái · Llanddeiniolen · Llandderfel · Llanddwywe · Llanegryn · Llanenddwyn · Llanengan · Llanelltyd · Llanfachreth · Llanfaelrhys · Llanfaglan · Llanfair · Llanfihangel-y-Pennant (Abergynolwyn) · Llanfihangel-y-Pennant (Cwm Pennant) · Llanfihangel-y-traethau · Llanfor · Llanfrothen · Llangelynnin · Llangïan · Llangwnadl · Llwyngwril · Llangybi · Llangywer · Llaniestyn · Llanllechid · Llanllyfni · Llannor · Llanrug · Llanuwchllyn · Llanwnda · Llanymawddwy · Llanystumdwy · Llanycil · Llithfaen · Maentwrog · Mallwyd · Minffordd · Minllyn · Morfa Bychan · Morfa Nefyn · Mynydd Llandygái · Mynytho · Nantlle · Nantmor · Nant Peris · Nasareth · Nebo · Pant Glas · Penmorfa · Pennal · Penrhos · Penrhosgarnedd · Pen-sarn · Pentir · Pentrefelin · Pentre Gwynfryn · Pentreuchaf · Pen-y-groes · Pistyll · Pontllyfni · Portmeirion · Prenteg · Rachub · Y Rhiw · Rhiwlas · Rhos-fawr · Rhosgadfan · Rhoshirwaun · Rhoslan · Rhoslefain · Rhostryfan · Rhos-y-gwaliau · Rhyd · Rhyd-ddu · Rhyduchaf · Rhydyclafdy · Rhydymain · Sarnau · Sarn Mellteyrn · Saron · Sling · Soar · Talsarnau · Tal-y-bont, Abermaw · Tal-y-bont, Bangor · Tal-y-llyn · Tal-y-sarn · Tanygrisiau · Trawsfynydd · Treborth · Trefor · Tre-garth · Tremadog · Tudweiliog · Waunfawr