163 CC
Gwedd
3g CC - 2g CC - 1g CC
210au CC 200au CC 190au CC 180au CC 170au CC - 160au CC - 150au CC 140au CC 130au CC 120au CC 110au CC
168 CC 167 CC 166 CC 165 CC 164 CC - 163 CC - 162 CC 161 CC 160 CC 159 CC 158 CC
Digwyddiadau
[golygu | golygu cod]- Ptolemi VI Philometor yn cael ei adfer i orsedd yr Aifft gan ddinasyddion Alexandria. Mae Gweriniaeth Rhufain yn gorchymyn rhannu'r deyrnas rhyngddo ef a Ptolemi VIII Physcon, gyda Ptolemi VIII yn cael Cyrenaica a Ptolemi VI yn cael Cyprus a'r Aifft.
- Yn dilyn marwolaeth Antiochus IV, mae llywodraethwr Media, Timarchus, yn gwrthryfela yn erbyn y brenin ieuanc Antiochus V Eupator a'i lywodraethwr, Lysias.
- Mae Lysias yn ceisio cael cytundeb heddwch a'r Iddewon yn Judea, gan gynnig rhyddid i ddilyn eu crefydd. Er bod y Chasidim yn barod i dderbyn y cynnig, mae Jiwdas Maccabeus yn dadlau o blaid hawlio annibyniaeth yn ogystal â rhyddid crefyddol.
Genedigaethau
[golygu | golygu cod]- Tiberius Sempronius Gracchus, gwleidydd Rhufeinig (bu farw 132 CC)
- Marcus Aemilius Scaurus, gwleidydd a llysgennad Rhufeinig (bu farw 89 CC)
Marwolaethau
[golygu | golygu cod]- Zhang Yan, yn ffurfiol yr Ymerodes Xiaohui, ymerodres Tsieina o Frenhinllin Han