Neidio i'r cynnwys

Ôl-Brexit a'r cynlluniau i adael yr Undeb Ewropeaidd

Oddi ar Wicipedia

Yn dilyn Refferendwm y Deyrnas Unedig ar aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd ar 23 Mehefin 2016 cafwyd adladd gwleidyddol, digwyddiadau a thrafodaethau eu cynnal ynghylch gadael yr Undeb Ewropeaidd, neu 'Brexit'. Yn gryno: roedd y canlyniad i adael yr UE yn annisgwyl, ymddiswyddodd Prif Weinidog y DU, David Cameron, etholwyd Prif Weinidog a oedd dros aros yn yr UE, Theresa May yn Brif Weinidog i weithredu'r hollti oddi wrth Ewrop, gwelwyd fod gwahaniaeth mawr yn y pleidleisiau yn yr Alban (a Gogledd Iwerddon) a gweddill y DU a chwympodd gwerth y bunt o'i gymharu â'r Ewro a'r Ddoler.

Digwyddiadau pwysicaf yn nhrefn amser

[golygu | golygu cod]
David Davies, gwleidydd o Loegr, Prif Negydwr y DU tan ei ymddiswyddiad yng Ngorffennaf 2018
  • 23 Mehefin 2016: Refferendwm y DU ar aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd: mwyafrif o blaid gadael.
  • 29 Mawrth 2017: Theresa Mai yn lansio Erthygl 50.
  • 19 Mehefin 2017: Negydu ffurfiol rhwng y DU a'r UE yn cychwyn.
  • 19 Mawrth 2018: y negydwyr Michel Barnier (UE) a David Davies (y ddau brif negydwr) yn cytuno ar linell-amser i'r digwyddiadau.
  • 20 Mehefin 2018: bil Brexit Llywodraeth Lloegr yn cael ei basio gan i Theresa Mai addo y caiff Aelodau Seneddol yr hawl i drafod y ddeddfwriaeth derfynol.
  • 1 Gorffennaf: prif negydwr y DU yn gadael dogfennau cyfrinachol brexit ar dren Eurostar.
  • 2 Gorffennaf: y brexitiwr caled Jacob Rees Mogg yn bygwth hollti'r Blaid Doriaidd oni bai fod Theresa Mai yn cadw at ei haddewid "No deal is better than a bad deal".
  • 6-9 Gorffennaf: 'Trafodaethau Chequers'; Gweinidogion y Llywodraeth yn rhoi sêl bendith ar gynlluniau Thersa May; ymddiswyddodd David Davies ar y Sul a Boris Johnson ar y dydd Llun. Barn y ddau oedd fod y cynlluniau'n wahanol i ddymuniad y rhai a bleidleisiodd yn y Refferendwm dros adael yr UE.
  • 18 Hydref 2018: cyfarfod tyngedfennol pan y cytunir ar berthynas y DU gydag gyda'r UE, sy'n caniatau amser i aelodau Llywodraeth y DU ac aelodau'r UE ddod i gytundeb erbyn 'Diwrnod Brexit'.
  • 29 Mawrth 2019: Diwrnod Brexit gwreiddiol, gan gychwyn y 'Cyfnod Pontio' (Saesneg: Transition Period). Gohiriwyd hwn ar 22 Mawrth 2019 am o leia dair wythnos am nad oedd y llywodraeth wedi pasio eu cytundeb drwy bleidlais yn Nhy'r Cyffredin.[1]
Rhan o anerchiad olaf May, drannoeth Etholiad yr Undeb Ewropeaidd (Stryd Downing; 24 Mai 2019)
  • 11 Ebrill 2019: Ymestynwyd cyfnod Erthygl 50 tan 31 Hydref
  • 23 Mai 2019: Etholiad Senedd Ewrop, 2019 (DU)
  • 24 Mai 2019: Ymddiswyddiad y Prif weinidog Theresa May
  • 1 Mehefin 2019: Etholiad Senedd Ewrop
  • 24 Gorffennaf 2019: Daeth Boris Johnson yn brif weinidog
  • Hydref 2019: Diwygiwyd y cytundeb gadael
  • Hydref 2019: Gohirwyd diwrnod gadael tan 31 Ionawr 2020
  • 12 Rhagfyr 2019: Etholiad Cyffredinol 2019
  • 31 Ionawr 2020 23:00 GMT: Y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ac yn cychwyn y Cyfnod Pontio.
  • 24 Rhagfyr 2020: Cafwyd cytundeb masnach rhwng y DU a'r UE, a bydd rhaid cael cymeradwyaeth holl wledydd yr UE yn ystod y dyddiau nesaf ynghyd â Senedd San Steffan.[2]
  • 31 Rhagfyr 2020: Y Cyfnod Pontio yn dod i ben.

Y Deyrnas Unedig

[golygu | golygu cod]
Canlyniadau yn ôl gwlad (a llundain) ar y chwith, ac yn ôl Rhanbarth / etholaeth seneddol (ar y dde)

     Mwyafrif dros adael

     Mwyafrif dros aros

Canlyniad y bleidlais oedd cwerylon a lled-argyfyngau gwleidyddol ac economaidd. Cyhoeddodd Nigel Farage, arweinydd UKIP, ei ymddiswyddiad ar 4 Gorffennaf 2016, gan ddweud ei fod wedi llwyddo i gyrraedd ei nod. Roedd sawl rheswm dros yr anghydfod, gan gynnwys: amserlen y gwahanu, termau'r gwahanu ac a fyddai'n rhaid cychwyn ar y broses a nodir o fewn Erthygl 50 o Gytundeb Lisbon ai peidio. Mynnai rhai gwleidyddion, gan gynnwys y Ceidwadwr Jacob Rees-Mogg a chyn-arweinydd y Democratiaid Ryddfrydol, Nick Clegg, fod angen galw etholiad cyffredinol cyn gwneud dim arall.

Yng Ngorffennaf 2016 cyhoeddwyd fod David Cameron wedi gwrthod caniatâu i'r Gwasanaeth Sifil i gynllunio ar gyfer y posibilrwydd o Brecsit; mynegodd Pwyllgor Materion Tramor y Llywodraeth fod y penderfyniad hwn gan Cameron yn "weithred o esgeulustod".[3]

Aeth y Prif Weinidog newydd, Theresa Mai ati ar unwaith i benodi "Uned Brexit" o weision sifil i edrych ar y gwahanol bosibiliadau ac yna cynghori'r Prif Weinidog a'i Chabined.[4] Cyn hir, penodwyd David Davis (AS dros Haltemprice and Howden) fel "Ysgrifennydd dros Brexit" (Secretary of State for Exiting the European Union).

Mewn cyhoeddiad ar 17 Ionawr 2017 (100 diwrnod wedi'r Refferendwm) dywedodd Theresa Mai mai "Brexit caled" oedd ei hunig opsiwn, mewn gwirionedd, h.y. y bydd gwledydd Prydain yn gadael y farchnad sengl wrth adael yr Undeb Ewropeaidd. Dywedodd y bydd yn dechrau'r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd cyn mis Mawrth 2017 ac y cymer tua dwy flynedd. Cadarnhaodd hefyd y bydd Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi yn cael pleidleisio ar y cytundeb terfynol rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd.[5]

Yr Alban

[golygu | golygu cod]
Pleidleisiodd pob un o'r 32 ardal llywodraeth leol dros aros yn yr UE.      Gadael      Aros

Pleidleisiodd yr Alban dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd, gyda 32 allan o 32 ardal llywodraeth leol yn pleidleisio dros aros. Dywedodd Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, "it is clear that the people of Scotland see their future as part of the European Union" a bod pobl yr Alban wedi siarad yn glir ac yn groyw ("spoken decisively").[6][7]

Cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban ar 24 Mehefin 2016 y byddai swyddogion yn dechrau cynllunio ar gyfer ail refferendwm ar annibyniaeth o'r Deyrnas Unedig ac yn dechrau paratoi deddfwriaeth i'r perwyl hwnnw.[8]

Ar 26 Mehefin, dywedodd y Prif Weinidog Nicola Sturgeon wrth y BBC y gallai'r Alban geisio gwrthod cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer gadael y DU o'r Undeb Ewropeaidd, ac ar 28 Mehefin, sefydlodd "gyngor sefydlog" o arbenigwyr i'w chynghori ar sut i ddiogelu'r berthynas rhwng yr Alban â'r UE. [Ar yr un diwrnod gwnaeth y datganiad canlynol: "Rwy'n awyddus i hyn fod yn glir i'r senedd: er fy mod yn credu mai annibyniaeth yw'r opsiwn gorau i'r Alban, fy mhwynt cychwyn yw diogelu ein perthynas â'r UE." Cyfarfu Sturgeon ag arweinwyr yr UE ym Mrwsel y diwrnod wedyn i drafod sut y gallai'r Alban aros yn yr UE.

Fel gwlad, pleidleisiodd Cymru dros adael yr UE.      Gadael      Aros

Pleidleisiodd 854,572 (52.5%) o drigolion Cymru o blaid gadael yr UE, o'i gymharu â 772,347 (47.5%) a oedd am aros. Er gwaethaf galwad y Blaid Lafur, pleidleisiodd nifer o ardaloedd traddodiadol Llafur fel Caerffili, Merthyr Tudful, Blaenau Gwent, Casnewydd ac Abertawe dros anwybyddu'r alwad honno, gan droi eu cefn ar Ewrop. Allan o 22 awdurdod lleol, 5 yn unig a bleidleisiodd dros aros o fewn yr UE: Gwynedd, Ceredigion, Bro Morgannwg, Sir Fynwy a Chaerdydd.

Awgrymodd Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru fod canlyniad y Refferendwm yn "newid popeth" a bod yr amser wedi dod i drafodaeth gynhwysfawr am Annibyniaeth i Gymru. Nododd Leanne Wood hefyd fod hyn yn newid meddyliau pobl ac y bydd sialensau enfawr yn wynebu economi Cymru a materion cyfansoddiadol.[9] Ar 5 Gorffennaf dangosodd pôl piniwn gan YouGov (a gomisiynwyd gan ITV Wales) y byddai 35% yn pleidleisio dros fod yn Annibynnol, pe cai Gymru aros o fewn yr UE.[10]

Mewn pôl piniwn gwahanol, eto gan YouGov ar gyfer ITV Wales, nododd 53% y byddent yn pleidleisio dros aros yn rhan o Ewrop, pe cynhelid etholiad arall.[11] Yn ôl yr Athro Roger Scully o Brifysgol Caerdydd, "mae'r twf o 6% ers y Refferendwm yn dangos fod y teimlad o aros yn rhan o Ewrop ar gynnydd."

Gogledd Iwerddon

[golygu | golygu cod]
Canlyniadau Gogledd Iwerddon

     Gadael

     Aros
Credoau crefyddol

     Catholigion

     Protestaniaid

Argymhelliad Sinn Féin oedd y dylid cynnal Refferendwm ar uno Gogledd Iwerddon gyda Gweriniaeth Iwerddon; Sinn Féin yw plaid weriniaethol fwyaf Gogledd Iwerddon, gyda chynrychiolaeth yn y Dáil Éireann yn ogystal â Cynulliad Gogledd Iwerddon.[12] Galwodd Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon, Martin McGuinness (Sinn Féin), am refferendwm gan fod y mwyafrif o bobl Gogledd iwerddon wedi pleidleisio o blaid aros yn yr UE.[13] Dywedodd Ian Paisley Jr. o'r DUP MLA nad oedd mo'i angen, ond y dylai dinasyddion y Gogledd wneud cais am basports Gweriniaeth Iwerddon.[14]

Lloegr

[golygu | golygu cod]

Cabinet y Deyrnas Unedig yw'r corff sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau, creu polisi a threfnu Adrannau gwahanol y Llywodraeth; caiff y Cabined ei gadeirio gan y Prif Weinidog.[15] yn dilyn cyhoeddi canlyniad y refferendwm yn Chwefror, roedd 23 allan o'r 30 aelod o'r Cabined yn cefnogi aros yn yr UE.[16] Ymddiswyddodd Iain Duncan Smith, ar 19 Mawrth a daeth Stephen Crabb, a oedd dros Brexit, yn ei le.[16][17] Roedd Crabb eisoes yn aelod o'r Cabined, fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a daeth Alun Cairns (ag yntau o blaid Brexit) yn ei le. Roedd cyfanswm yr aelodau a oedd o blaid Brexit, felly yn 25.

Ar 24 Mehefin cyhoeddodd David Cameron y byddai'n ymddiswyddo fel Prif Weinidog, gan ei fod wedi cefnogi aros o fewn Ewrop, a'r bleidlais wedi mynd yn ei erbyn. Er bod llawer yn credu mai un o arweinyddion yr ymgyrch Vote Leave, Boris Johnson, fyddai un o'r ffefrynnau yn y ras am fod yn Brif Weinidog, penderfynodd Boris, funud olaf, i beidio a rhoi ei enw ymlaen, ac ar 13 Gorffennaf, lai na thair wythnos wedi'r bleidlais, daeth Theresa Mai yn Brif Weinidog.

Roedd yr adladd cynddrwg yn y Blaid Lafur, gyda llawer o Aelodau Seneddol yn gweld bai ar eu harweinydd Jeremy Corbyn am beidio ag arwain dros aros yn yr UE yn ddigon cryf.[18] Un o'r rhai mwyaf uchel eu cloch oedd Hilary Benn (Gweinidog Tramor yr Wrthblaid) a arweiniodd coup (neu wrthryfel) yn erbyn eu harweinydd. Ar 26 Mehefin, dangosodd Corbyn y drws iddo, ac ymddiswyddodd nifer o AS o'u swyddi o fewn y blaid, mewn protest.[19][20] Fel canlyniad, cynhaliwyd pleidlais o ddiffyg ffydd (gan yr AS Llafur) yn Jeremy Corbyn ar 28 Mehefin 2016. Roedd 80% (172) yn erbyn Corbyn.[21] Ymateb Corbyn oedd fod aelodau cyffredin y Blaid Lafur yn llawer pwysicach iddo na mân gweryla ASau, ac nad oedd unrhyw sylwedd cyfansoddiadol i'w pleidlais.[22] Er nad oedd yn rhaid iddo wneud hynny, ymddiswyddodd, a chynhaliwyd etholiad oddi fewn y Blaid Lafur i ethol arweinydd. Safodd a bu'n llwyddiannus, a thawelodd y storm yn ei erbyn.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Brwsel yn cytuno i ohirio Brexit tan fis Mai , Golwg360, 22 Mawrth 2019. Cyrchwyd ar 27 Mawrth 2019.
  2. Brexit: Cytundeb masnach wedi cael ei gytuno rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd , Golwg350, 24 Rhagfyr 2020.
  3. Wintour, Patrick (20 Gorffennaf 2016). "Cameron accused of 'gross negligence' over Brexit contingency plans". The Guardian. Cyrchwyd 21 Gorffennaf 2016.
  4. Quote from the PM's spokesperson Proctor, Kate (27 Mehefin 2016). "Cameron sets up Brexit unit". Yorkshire Post. Gorllewin Swydd Efrog, DU. Cyrchwyd 27 Mehefin 2016.
  5. Gwefan Golwg 360; adalwyd 17 Ionawr 2017.
  6. "EU Referendum Results". BBC News. 1 Ionawr 1970. Cyrchwyd 13 Medi 2018.
  7. Dickie, Mure (24 Mehefin 2016). "Scots' backing for Remain raises threat of union's demise" – drwy Financial Times.
  8. Jamieson, Alastair (24 Mehefin 2016). "'Brexit' Triggers New Bid for Scottish Independence". NBC News.
  9. Morris, Steven (27 Mehefin 2016). "It's time to put Welsh independence on agenda – Leanne Wood". The Guardian. Cyrchwyd 8 Mehefin 2016.
  10. Shipton, Martin (5 Gorffennaf 2016). "A third of voters would back independence for Wales – if the country could stay in the EU as the rest of the UK left". Western Mail. Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2016.
  11. WalesOnline; adalwyd 29 Rhagfyr 2016. Teitl: Research undertaken by YouGov for ITV Wales and Cardiff University shows that, excluding don’t knows, Wales would vote 53% to 47% for Remain.
  12. Young, David (24 Mehefin 2016). "Sinn Fein is demanding a poll on a United Ireland after Brexit". Daily Mirror.
  13. "EU referendum result: Sinn Fein's Martin McGuinness calls for border poll on united Ireland after Brexit". The Independent. 24 Mehefin 2016.
  14. Matt Payton (25 Mehefin 2016). "Ian Paisley Jr urges Northern Irish citizens to apply for Republic of Ireland passports". Independent. Cyrchwyd 5 Gorffennaf 2016.
  15. "How Cabinet works". The National Archives. Cyrchwyd 22 Mawrth 2016.
  16. 16.0 16.1 "EU Referendum: Where Conservative MPs stand". BBC News. 21 Mawrth 2016. Cyrchwyd 22 Mawrth 2016.
  17. "Who is Stephen Crabb?". BBC News. Cyrchwyd 22 Mawrth 2016.
  18. "Labour 'Out' Votes Heap Pressure on Corbyn". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-06-27. Cyrchwyd 2016-12-29.
  19. Asthana A, and Syal, R. (26 Mehefin 2016). "Labour in crisis: Tom Watson criticises Hilary Benn sacking". The Guardian. Cyrchwyd 26 Mehefin 2016.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  20. "Jeremy Corbyn's new-look shadow cabinet". The Daily Telegraph. London, UK. 27 Mehefin 2016. Cyrchwyd 28 Mehefin 2016.
  21. "Jeremy Corbyn Loses Vote of No Confidence". Sky News. 28 Mehefin 2016. Cyrchwyd 28 Mehefin 2016.
  22. Holden, Michael; Piper, Elizabeth (28 Mehefin 2016). "EU leaders tell Britain to exit swiftly, market rout halts". Reuters. Cyrchwyd 28 Mehefin 2016. the confidence vote does not automatically trigger a leadership election and Corbyn, who says he enjoys strong grassroots support, refused to quit. 'I was democratically elected leader of our party for a new kind of politics by 60 percent of Labour members and supporters, and I will not betray them by resigning,' he said.