Graham T. Allison
Graham T. Allison | |
---|---|
Yr Athro Graham T. Allison yn 2017. | |
Ganwyd | Graham Tillett Allison, Jr. 23 Mawrth 1940 Charlotte |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwyddonydd gwleidyddol, llenor |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Essence of Decision |
Gwobr/au | Ysgoloriaeth Marshall, Dostyk Order of grade II, William and Katherine Estes Award |
Gwyddonydd gwleidyddol Americanaidd yw Graham Tillett Allison, Jr. (ganwyd 23 Mawrth 1940) sydd yn nodedig am ei gyfraniad at ddadansoddiad biwrocrataidd gwneud penderfyniadau, yn enwedig yn ystod adegau argyfwng. Ers y 1970au mae Allison wedi bod yn ddadansoddwr blaenllaw ym meysydd diogelwch cenedlaethol a pholisi amddiffyn yr Unol Daleithiau, gyda sylw arbennig ar arfau niwclear a therfysgaeth.
Ganed yn Charlotte, Gogledd Carolina. Mynychodd Goleg Davidson, coleg preifat yn Davidson, Gogledd Carolina, cyn iddo astudio am ei radd baglor ym Mhrifysgol Harvard. Derbyniodd radd baglor arall, a gradd meistr, o Goleg Hertford, Rhydychen. Dychwelodd i Harvard ac yno enillodd ei ddoethuriaeth mewn gwyddor gwleidyddiaeth ym 1968. Allison oedd deon Ysgol Lywodraeth John F. Kennedy, Harvard, o 1977 i 1989. Wedi hynny, bu'n athro llywodraeth yn Ysgol Kennedy.
Ym 1971 cyhoeddwyd ei gyfrol enwocaf, Essence of Decision: Explaining the Cuban Missile Crisis (1971), dadansoddiad o benderfyniadau yn ystod argyfwng taflegrau Ciwba a gafodd cryn ddylanwad ar ddamcaniaeth penderfyniadau o fewn cysylltiadau rhyngwladol. Byddai'n cydweithio â Philip Zelikow i ddiweddaru ac ehangu'r llyfr ym 1999. Cyd-ysgrifennodd Allison a Peter Szanton y llyfr Remaking Foreign Policy: The Organizational Connection (1976), a gafodd effaith ar bolisi tramor gweinyddiaeth yr Arlywydd Jimmy Carter.
Gwasanaethodd Allison yn gynghorwr arbennig i Caspar Weinberger, Ysgrifennydd Amddiffyn yr Unol Daleithiau, o 1985 i 1987, yn ystod arlywyddiaeth Ronald Reagan. O 1993 i 1994, dan yr Arlywydd Bill Clinton, gweithiodd Allison i gydlynu strategaeth a pholisi'r Adran Amddiffyn tuag at gyn-weriniaethau'r Undeb Sofietaidd yn ei swydd yn ysgrifennydd cynorthwyol dros bolisi a chynlluniau. Roedd hefyd yn aelod o'r Comisiwn ar Atal Amlhau Arfau Dinistriol a Therfysgaeth.
- Genedigaethau 1940
- Academyddion yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Academyddion yr 21ain ganrif o'r Unol Daleithiau
- Academyddion Prifysgol Harvard
- Cyn-fyfyrwyr Coleg Hertford, Rhydychen
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Harvard
- Gwyddonwyr gwleidyddiaeth o'r Unol Daleithiau
- Pobl o Charlotte, Gogledd Carolina
- Ysgolheigion cysylltiadau rhyngwladol
- Ysgolheigion Saesneg o'r Unol Daleithiau