Cabinet yr Unol Daleithiau
Mae Cabinet yr Unol Daleithiau (Saesneg: Cabinet of the United States) yn rhan weithredol o lywodraeth ffederal yr Unol Daleithiau sydd fel arfer yn ymddwyn fel corff cynghori i Arlywydd yr Unol Daleithiau.
Yn rhan o'r Cabinet, y mae swyddogion a benodir uchaf o gangen weithredol y llywodraeth, ac y maent yn gwasanaethu o dan yr Arlywydd. Cynhhwysa'r rhain yr Is-Arlywydd a phenaethiaid yr adrannau gweithredol ffederal. Gwasanaetha aelodau'r Cabinet (ac eithrio'r Is-Arlywydd) er pleser yr Arlywydd.
Gall holl swyddogion cyhoeddus ffederal, gan gynnwys aelodau'r Cabinet, eu huchelgyhuddo gan Dŷ'r Cynrychiolwyr. Yn ogystal, mae'n bosibl iddynt gael eu rhoi ar dreial yn y Senedd ar gyfer "brad, llwgrwobrwyo, ac uchel droseddau a chamymddygiadau".
Cabinet presennol
Dyma 16 prif aelod Cabinet yr Unol Daleithiau yn nhrefn olyniaeth i'r Arlywyddiaeth.
Cabinet | ||
---|---|---|
Swydd | Deiliad | Dechrau tymor |
Is-Arlywydd |
Mike Pence
|
20 Ionawr 2017 |
Ysgrifennydd Gwladol |
1 Chwefror 2017 | |
Ysgrifennydd y Trysorlys |
Steven Mnuchin
|
13 Chwefror 2017 |
Ysgrifennydd Amddiffyn |
James Mattis
|
20 Ionawr 2017 |
Twrnai Cyffredinol |
9 Chwefror 2017 | |
Ysgrifennydd Mewnol |
Ryan Zinke
|
1 Mawrth 2017 |
Ysgrifennydd Amaethyddiaeth |
Sonny Perdue
|
25 Ebrill 2017 |
Ysgrifennydd Masnach |
Wilbur Ross
|
28 Chwefror 2017 |
Ysgrifennydd Llafur |
Alex Acosta
|
28 Ebrill 2017 |
Ysgrifennydd Iechyd a Gwasanaethau Dynol |
Tom Price
|
10 Chwefror 2017 |
Ysgrifennydd Tai a Datblygiad Trefol |
Ben Carson
|
2 Mawrth 2017 |
Ysgrifennydd Trafnidiaeth |
Elaine Chao
|
31 Ionawr 2017 |
Ysgrifennydd Ynni |
2 Mawrth 2017 | |
Ysgrifennydd Addysg |
Betsy DeVos
|
7 Chwefror 2017 |
Ysgrifennydd Materion Cyn-filwyr |
David Shulkin
|
14 Chwefror 2017 |
Ysgrifennydd Diogelwch y Famwlad |
Elaine Duke (Dros dro)
|
31 Gorffennaf 2017 |