Ffuglen greadigol ar ffurf darn o ryddiaith cymharol fyr yw stori fer. Mae'n fyrrach na nofel ond mae ei hyd yn gallu amrywio o sawl paragraff yn unig i ddegau o dudalennau. Ar ôl y nofel, mae'r stori fer yn un o'r ffurfiau ffuglen mwyaf poblogaidd.

Anodd diffinio'r stori fer yn derfynol, ond mae ganddi sawl nodwedd arbennig fel ffurf lenyddol.

  1. Mae'r stori fer yn tueddu i ganolbwyntio ar un agwedd ar stori neu gymeriad a'i archwilio'n ofalus.
  2. Cyfyngir y llwyfan fel rheol ac mae'r cynllun yn llawer llai cymhleth na chynllun nofel.
  3. Torrir allan popeth sydd ddim yn berthnasol i'r stori ei hun.
  4. Dylai fod yn waith gorffenedig ynddo ei hun, yn gyfanwaith cyfan.

Rhai o feistri mawr y Stori Fer

golygu

Llyfryddiaeth

golygu
  • Dafydd Jenkins, Y Stori Fer Gymraeg (1966)
  • John Jenkins (gol.), Y Stori Fer: Seren Wib Llenyddiaeth (1979)

Gweler hefyd

golygu
Chwiliwch am stori fer
yn Wiciadur.