Ffuglen

math o stori sy'n ffrwyth y dychymyg

Ffuglen yw gwaith sy'n adrodd stori nad yw'n hollol seiliedig ar ffeithiau. Y prif bwrpas fel rheol yw difyrrwch, er y gall fod gan yr awdur amcanion eraill hefyd. Gall fod yn ysgrifenedig neu ar lafar. Er enghraifft, credir fod chwedlau fel Pedair Cainc y Mabinogi a Culhwch ac Olwen wedi dechrau fel chwedlau llafar, ac wedi cael eu rhoi mewn ysgrifen yn ddiweddarach, er bod beirniaid ac ysgolheigion yn anghytuno pa bryd y bu hyn.

Ffuglen
Enghraifft o'r canlynolgenre o fewn celf Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebffeithiol Edit this on Wikidata
Yn cynnwyswork of fiction Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Golygfa o Culhwch ac Olwen, Culhwch ac Olwen yn llys Ysbaddaden

Ymhlith elfennau pwysicaf ffuglen mae cymeriadau, plot (cynllun y stori) a lleoliad. Ceir nifer o wahanol ffurfiau o ffuglen ysgrifenedig; y mwyaf cyffredin yw'r nofel a'r stori fer. Gellir hefyd dosbarthu ffuglen yn ôl genre, er enghraifft Ffuglen wyddonol.

Fel rheol mae ffuglen ar ffurf rhyddiaith greadigol.

Chwiliwch am ffuglen
yn Wiciadur.