Goresgyniad Wcráin gan Rwsia yn 2022

Ar 24 Chwefror 2022, lansiodd Rwsia ymosododiad milwrol mawr ar Wcráin, gwlad gyfagos iddi yn y de-ddwyrain. Roedd hyn wedi golygu dwysâd i'r gwrthdaro rhwng y ddwy wlad a ddechreuodd yn 2014. Yn sgil Chwyldro Urddasol Wcráin yn 2014, cyfeddiannodd Rwsia benrhyn y Crimea ac roedd lluoedd ymwahanwyr wedi cipio rhan o'r Donbas yn nwyrain Wcráin â chefnogaeth Rwsia, a arweiniodd wedyn at wyth mlynedd o ryfela yn yr ardal.[1][2] Roedd rhai adroddiadau yn dweud mai ymosodiad confensiynol mwyaf Ewop ers yr Ail Ryfel Byd oedd y gorsegyniad hwn.[3][4][5]

Goresgyniad Wcráin gan Rwsia yn 2022
Enghraifft o'r canlynolrhyfel, gweithrediad milwrol, ymosodiad milwrol, goresgyniad, rhyfel heb ei gyhoeddi'n swyddogol, international conflict, war of aggression, religious war Edit this on Wikidata
Lladdwyd42,295, 10,000 Edit this on Wikidata
AchosEhangiad nato i'r dwyrain, russian irredentism, decommunization in ukraine, presidency of viktor yanukovych, putin's plan, etholiad arlywyddol rwsia, 2024, ukraine bioweapons conspiracy theory edit this on wikidata
GwladBaner Wcráin Wcráin
Baner Rwsia Rwsia
Rhan oRhyfel Rwseg-Wcreineg
Dechreuwyd24 Chwefror 2022 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganargyfwng Wcráin–Rwsia 2021–22 Edit this on Wikidata
LleoliadDwyrain Ewrop, Wcráin, Rwsia, Crimea Edit this on Wikidata
Yn cynnwysEastern Ukraine campaign, southern front of the Russian invasion of Ukraine, Northeastern Ukraine offensive, 2022 Kharkiv counteroffensive, Russian annexation of Donetsk, Kherson, Luhansk and Zaporizhzhia oblasts, Russian strikes against Ukrainian infrastructure, war crimes in the Russian invasion of Ukraine, attacks in Russia during the Russian invasion of Ukraine, 2022 Kherson counteroffensive, Belarusian and Russian partisan movement, Kyiv Offensive (2022), Q117531310, 2023 Ukrainian counteroffensive Edit this on Wikidata
GwladwriaethWcráin, Gweriniaeth Pobl Luhansk, Gweriniaeth Pobl Donetsk, Rwsia, Belarws, Talaith Kherson, Talaith Zaporozhye Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://z.mil.ru/spec_mil_oper.htm Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
  Dan reolaeth Wcráin
  Dan reolaeth Rwsia ac ymwahanwyr sy'n ei chefnogi

(Gweler hefyd: Map manwl o ryfel Rwsia ac Wcráin)

Yn gynnar yn 2021, roedd byddin Rwsia wedi dechrau ymgasglu wrth ffiniau Wcráin â Rwsia a Belarws. Cyhuddodd yr Unol Daleithiau ac eraill Rwsia o gynllunio goresgyniad, ond gwadodd swyddogion Rwsiad hyn droeon. Yn ystod yr argyfwng hwn, roedd Fladimir Pwtin wedi comdemnio ehangiad Sefydliad Cytundeb Gogledd yr Iwerydd (NATO)[6] a mynnu bod Wcráin yn cael ei gwahardd am byth rhag ymuno â'r gynghrair filwrol honno.[7] Mynegodd Putin a swyddogion y Cremlin farn iredentaidd[8] a chwestiynu hawl Wcráin i'w sofraniaeth ei hun.[9][10] Cyn y cyrch, cyhuddasant Wcráin o hil-laddiad yn erbyn Wcreiniaid Rwsieg eu hiaith er mwyn ceisio cyfiawnhau rhyfel, er mai'r farn gyffredin yw nad oes sail i'r cyhuddiadau hyn.

Ar 21 Chwefror 2022, cydnabu Rwsiad fodolaeth gweriniaethau pobl Donetsk a Luhansk, dwy wlad hunangyhoeddedig wedi eu rheoli gan luoedd teyrngar i Rwsia yn y Donbas.[11] Trannoeth, bu Cyngor Ffederasiwn Rwsia yn unfrydol wrth roi eu hawdurdod i Putin ddefnyddio grym milwrol y tu allan i ffiniau Rwsia ac felly anfonodd y wlad fel miwyr i mewn i'r tiriogaethau hyn. Tua 05:00 Amser Dwyrain Ewrop (UTC+2) ar 24 Chwefror, cyhoeddodd Putin "ymgyrch filwrol arbennig"[12] yn nwyrain Wcráin, a munudau wedyn, dechreuodd taflegrau daro mannau ar draws Wcráin, gan gynnwys y brifddinas, Kyiv. Dywedodd Gwasanaeth Gwarchodlu Ffin Gwlad Wcráin fod ymosod ar ei orsafoedd ar y ffin â Rwsia a Belarws.[13][14] Ddwy awr wedyn, croesodd byddin Rwsia y ffin a threiddio i'r wlad.[15] Ymatebodd arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelenskyy, drwy ddatgan rheolaeth filwrol, gan dorri cysylltiadau diplomyddol â Rwsia a galw am ymfyddino.[16]

Beirniadwyd y goresgyniad yn hallt yn gyffredinol ar draws y byd, a gosodwyd sancsiynau ar Rwsia a sbardunodd argyfwng ariannol yno. Bu gwrthdystio ledled y byd yn erbyn yr ymosodiad tra bo llawer o wrthdystwyr yn Rwsia ei hun gael eu harestio.[17][18] Cyn ac yn ystod y goresgyniad, mae nifer o wledydd wedi bod yn darparu cymorth i Wcráin, gan gynnwys arfau a chefnogaeth matériel. Mewn ymateb i hyn, rhoddodd Putin luoedd niwclear Rwsia ar rybudd uchel.[19]

Yn ôl Uwch Gomisynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid (UNHCR), mwy na 500,000 o Wcreiniaid ffodd y wlad yn ystod pedwar diwrnod cyntaf y goresgyniad, a achosodd argyfwng ffoaduriaid ar draws Ewrop.[20]

Cronoleg

golygu
Fflatiau yn Kyiv (Rhodfa Valeriy Lobanovskyi) a drawyd gan daflegryn ar 26 Chwefror
Fflatiau yn Kharkiv â difrod gan daflegryn ar 26 Chwefror
  • 24 Chwefror 2022: Cyhoeddodd arlywydd Rwsia, Fladimir Pwtin, i'r genedl y byddai ymgyrch filwrol arbennig yn cychwyn yn Wcráin. Dilynwyd hyn gan oresgyniad gan filwyr Rwsia, a aeth i mewn i Wcráin ac ymosod ar dargedau milwrol.
  • 25 Chwefror 2022: Tyfodd y goresgyniad wrth i fyddin Rwsia gyrraedd Kyiv. Cydnabuwyd 100 marwolaeth gan lywodraeth Wcráin.
  • 26 Chwefror 2022: Bu cynnydd yn yr ymosodiadau, gyda 200 wedi marw a miloedd wedi'u hanafu yn ôl Wcráin. Rhyw 50,000 i 100,000 o Wcreiniaid ffodd o'r wlad a cheisiodd llawer mwy ddilyn eu hesiampl.[21] Bu gwrthwynebiad yn erbyn yr ymosodiadau cynyddol yn y brifddinas a mannau eraill.[22]
  • 27 Chwefror 2022: Aeth milwyr o Rwsia i mewn i Berdiansk, Melitopol a Kherson yn y de ac i Kharkiv yn y gogledd, a bu gwrthwynebiad yn yr un modd ag yn Kyiv.[23][24] Cyhoeddodd ffynonellau gwahanol wybodaeth groesebol am yr ymosodiadau a'r gwythwynebiad iddynt mewn gwahanol ddinasoedd. Gellid bod yn fwy sicr am yr alltud o Wcráin o tua 360,000 o bobl erbyn hyn.
  • 28 Chwefror 2022: Aeth dirprywaeth o Wcráin i fan ar y ffin rhwng Wcráin a Belarws i drafod telerau cadoediad. Gwnaeth arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelenskyy, gais i Wcráin ddod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd.
  • 2 Mawrth 2022: Bu cynnydd eto yn yr ymosodiadau ar Kyiv a Kharkiv. Roedd byddin Rwsia yn rheoli'r arfordir rhwng Crimea a'r Donbas, sef Môr Azov.[25] Erbyn hyn, cofnodwyd mwy nag 800,000 o ffoaduriaid o Wcráin.
  • 2 Mawrth 2022: Saethwyd Volodymyr Struk, gwleidydd Wcreinaidd a maer Kreminna, yn farw.
  • 3 Mawrth 2022: Pleidleisiodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig o blaid cynnig a oedd yn "mynnu bod Ffederasiwn Rwsia yn peidio â defnyddio grym yn erbyn Wcráin yn syth" a "thynnu ei holl luoedd milwrol yn ôl yn syth, yn llwyr ac yn ddiamod". Roedd y testun yn "gresynu yn y ffordd gryfaf at yr ymosodiad gan Ffederasiwn Rwsia yn erbyn Wcráin" ac yn "ailddatgan ei ymroddiad i sofraniaeth, annibyniaeth, undeb a chyfanrwydd tiriogaethol Wcráin". 141 o wledydd bleidleisiodd o blaid y cynnig, 5 yn ei erbyn a 35 a oedd yn ymatal. Y pump yn erbyn y cynnig oedd Belarws, Eritrea, Gogledd Corea, Syria a Rwsia ei hun.[26]
  • 3 Mawrth 2022: Gwnaeth 38 gwlad apêl at y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol ynghylch goresgyniad Wcráin gan Rwsia. Hon felly oedd yr apêl fwyaf yn ei hanes erioed.[27]
  • 3 Mawrth 2022: Erbyn hyn roedd miliwn o ffoaduriaid wedi gadael y wlad. Roedd milwyr Rwsia yn rheoli Kherson a Kharkiv. Cydnabu Rwsia farwolaethau 500 o'i milwyr tra oedd ffynonellau yn Wcráin yn mynegi niferoedd llawer uwch. Yn y cyfamser, arestiwyd 6,000 o bobl yn Rwsia a 600 ym Melarws am wrthdystio yn erbyn y rhyfel.[28]
  • 4 Mawrth 2022: Cynyddodd ymosodiadau Rwsia yn Wcráin, a gydnabu fod atomfa Zaporizhzhia dan reolaeth milwyr Rwsia.[29][30]
  • 6 Mawrth 2022: Roedd 1,500,000 o ffoaduriaid wedi gadael Wcráin erbyn hyn yn ôl y Cenhedloedd Unedig.[31] Yn Rwsia, roedd 10,000 wedi cael eu harestio am wrthdystio yn erbyn y rhyfel ac roedd rhybudd i newyddiadurwyr na ddylent adrodd barn sy'n groes i safiad y llywodraeth. Roedd y bomio yn Kharkiv a Mariupol yn parhau.
  • 8 Mawrth 2022: Datganodd arlywydd Tsieina, Xi Jinping, ei fod yn cefnogi gweithredoedd Ffrainc a'r Almaen er mwyn sicrhau cadoediad yn Wcráin.[32]. Cyhoeddodd arlywydd UDA, Joe Biden, embargo ar fewnforio olew a nwy.
  • 9 Mawrth 2022: Trawyd ysbyty plant Mariupol gan fomiau. Lladdwyd tri ac anafwyd 17 yn y digwyddiad.[33]
  • 8 Mawrth 2022: Cafodd gweinidogion Rwsia ac Wcráin dros faterion tramor gyfarfod yn Nhwrci er mwyn ceisio cytuno ar delerau cadoediad, ond datganodd Dmitro Kuleba ei fod yn amau y gallai dod i gytunteb â gweinidog Rwsia Sergey Lavrov. Ni fu llwyddiant yn sgil y trafodaethau. Mewn cynhadledd i'r wasg wedi'r cyfarfod, mynnodd Lavrov nad oedd Rwsia wedi goresgyn Wcráin a bod bomio'r ysbyty ym Mariupol y diwrnod blaenorol wedi digwydd oherwydd bod yn cael ei ddefnyddio gan Fataliwn Azov a radicaliaid eraill yn hytrach na mamau beichiog a staff meddygol. Dywedodd nad yw cyfundrefn Putin am gael rhyfel a'i bod yn ymdrechu i ddod â'r gwrthdaro presennol i ben.[34]
  • 11 Mawrth 2022: Dywedodd Vladimir Putin ei fod am hwyluso'r broses o anfon milwyr gwirfoddol i Wcráin, o'r Dwyrain Canol yn bennaf.[35][36] Tua 2.5 miliwn o bobl oedd wedi ffoi gwlad Wcráin yn ôl y Cenhedloedd Unedig.[37]
  • 12 Mawrth 2022: Yn ôl llywodraeth Wcráin, roedd 1,300 o'i milwyr wedi marw hyd at hynny a soniodd y Cenhedloedd Unedig fod o leiaf 549 o sifiliaid wedi marw.[38]
  • 13 Mawrth 2022: Parhaodd y gwarchae ar Mariupol, tra oedd Rwsia yn peledu meysydd awyr Lutsk ac Ivano-Frankivsk, yn agos at y ffin â Gwlad Pwyl.[39]
  • 24 Mawrth 2022: NATO yn pryderu y gall Rwsia ddefnyddio arfau cemegol a niwclear fel rhan o'i ymosodiad ar Wcráin.[40]
  • 3 Ebrill 2022: Merch fach Wcreineg, Amelia Anisovych, yn perfformio yng nghystadleuaeth Côr Cymru ar S4C. Daeth Amelia i amlygrwydd wedi iddi gael ei ffilmio ar ffôn symudol yn canu cân Let it Go o'r ffilm Frozen.[41] Bu iddi ganu Anthem Genedlaethol Wcráin ar lwyfan Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth.[42]
  • 7 Ebrill 2022: Adroddiadau o fataliwn filwrol o filwyr Rwsieg wedi ei ffurfio i ymladd yn erbyn lluoedd Rwsia yr Arlywydd Putin gan wneud defnydd o'r faner gwyn-glas-gwyn gwrth Putin.[43]
  • 21 Ebrill 2022: Gwarchae ar ddinas arfordirol Mariupol yn dod i'w therfyn wrth i'r milwyr Wcreinieg olaf cael eu hamgylchynu ar safle gwaith dur.[44]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Kirby, Jen (28 Chwefror 2022). "Putin's invasion of Ukraine, explained". Vox. Cyrchwyd 28 Chwefror 2022.
  2. "Conflict in Ukraine". Global Conflict Tracker. Council on Foreign Relations. 28 Chwefror 2022. Cyrchwyd 28 Chwefror 2022.
  3. Herb, Jeremy; Starr, Barbara; Kaufman, Ellie (24 Chwefror 2022). "US orders 7,000 more troops to Europe following Russia's invasion of Ukraine". Oren Liebermann and Michael Conte. CNN. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Chwefror 2022. Cyrchwyd 27 Chwefror 2022. Russia's invasion of its neighbor in Ukraine is the largest conventional military attack that's been seen since World War II, the senior defense official said Thursday outlining US observations of the unfolding conflict
  4. Karmanau, Yuras; Heintz, Jim; Isachenkov, Vladimir; Litvinova, Dasha (24 Chwefror 2022). "Russia presses invasion to outskirts of Ukrainian capital". ABC News. Photograph by Evgeniy Maloletka (AP Photo). Kyiv: American Broadcasting Corporation. Associated Press. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Chwefror 2022. Cyrchwyd 26 Fe Chwefror bruary 2022. ... [a]mounts to the largest ground war in Europe since World War II. Check date values in: |access-date= (help)Nodyn:Cbignore
  5. Tsvetkova, Maria; Vasovic, Aleksandar; Zinets, Natalia; Charlish, Alan; Grulovic, Fedja (27 Chwefror 2022). "Putin puts nuclear 'deterrence' forces on alert". Writing by Robert Birsel and Frank Jack Daniel; Editing by William Mallard, Angus MacSwan and David Clarke. Kyiv: Thomson Corporation. Reuters. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Chwefror 2022. Cyrchwyd 27 Chwefror 2022. [t]he biggest assault on a European state since World War Two.Nodyn:Cbignore
  6. NATO-Russia relations: the facts. NATO. Retrieved: 1 Mawrth 2022.
  7. Wiegrefe, Klaus (15 Chwefror 2022). "NATO's Eastward Expansion: Is Vladimir Putin Right?". Der Spiegel. ISSN 2195-1349. Cyrchwyd 28 Chwefror 2022.
  8. "Russia's invasion of Ukraine". The Economist. The Economist Group. 26 Chwefror 2022. ISSN 0013-0613. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Chwefror 2022. Cyrchwyd 26 Chwefror 2022. Though the target of Mr Putin's tirade on Chwefror 21st was Ukraine, the former Soviet republics now in NATO, Estonia, Latvia and Lithuania, have cause for alarm over his irredentism.Nodyn:Cbignore
  9. Perrigo, Billy (22 Chwefror 2022). "How Putin's Denial of Ukraine's Statehood Rewrites History". Time. Cyrchwyd 28 Chwefror 2022.
  10. "Putin Says He Does Not Plan to 'Restore Empire'". The Moscow Times. 22 Chwefror 2022.
  11. Hernandez, Joe (22 Chwefror 2022). "Why Luhansk and Donetsk are key to understanding the latest escalation in Ukraine". NPR. Cyrchwyd 28 Chwefror 2022.
  12. "Putin's invasion of Ukraine, explained". Vox. 26 Chwefror 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Chwefror 2022.Nodyn:Cbignore
  13. "Russia attacks Ukraine". CNN. 24 Chwefror 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Chwefror 2022. Cyrchwyd 24 Chwefror 2022.
  14. "Украинские пограничники сообщили об атаке границы со стороны России и Белоруссии" [Ukrainian border guards reported an attack on the border from Russia and Belarus] (yn Rwseg). Interfax. 24 Chwefror 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Chwefror 2022. Cyrchwyd 24 Chwefror 2022.
  15. Kirby, Paul (24 Chwefror 2022). "Why is Russia invading Ukraine and what does Putin want?". BBC News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 December 2021. Cyrchwyd 24 Chwefror 2022.
  16. "Ukrainian president signs decree on general mobilisation of population -Interfax" (yn Saesneg). Reuters. 24 Chwefror 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Chwefror 2022. Cyrchwyd 25 Chwefror 2022.
  17. Morin, Rebecca (24 Chwefror 2022). "World leaders condemn Russian invasion of Ukraine; EU promises 'harshest' sanctions – live updates". USA Today (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Chwefror 2022. Cyrchwyd 24 Chwefror 2022.
  18. Stewart, Briar; Seminoff, Corinne; Kozlov, Dmitry (24 Chwefror 2022). "More than 1,700 people detained in widespread Russian protests against Ukraine invasion". CBC News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Chwefror 2022. Cyrchwyd 24 Chwefror 2022.
  19. Heintz, Jim; Isachenkov, Vladimir; Karmanau, Yuras; Litvinova, Dasha (27 Chwefror 2022). "Putin puts nuclear forces on high alert, escalating tensions". AP News (yn Saesneg). Cyrchwyd 3 Mawrth 2022.
  20. "Mapped: Where Ukrainian refugees are fleeing to". Axios. 28 Chwefror 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 March 2022. Cyrchwyd 3 Mawrth 2022.Nodyn:Cbignore
  21. Jairo Vargas Martín/Agentejoj Comienza el éxodo de miles de refugiados ucranianos hacia países vecinos de Europa, Público, 25 Chwefror 2022. Cyrchwyd 26 Chwefror 2022.
  22. Luis de Vega, María R. Sahuquillo, Ucrania ofrece una resistencia feroz a la ofensiva rusa El País, 26 Chwefror 2022. Cyrchwyd 27 Chwefror 2022.
  23. Mariano Zafra, Luis Sevillano Pires, Kiko Llaneras, Montse Hidalgo Pérez, José A. Álvarez, Los mapas de la guerra entre Rusia y Ucrania: continua el asalto sobre Kiev y Járkov El País, 27 Chwefror 2022. Cyrchwyd 27 Chwefror 2022.
  24. María R. Sahuquillo, Las tropas de Rusia entran en la ciudad clave de Járkov El País, 27 Chwefror 2022. Cyrchwyd 27 Chwefror 2022.
  25. Jairo Vargas Martín, Kiev se prepara para el cerco ruso mientras la UE abre la puerta a Ucrania Público, 2 Mawrth 2022. Cyrchwyd 2 Mawrth 2022.
  26. "United Nations General Assembly resolution ES-11/1".
  27. https://en.interfax.com.ua/news/general/805977.html
  28. Las manifestaciones contrarias a Putin se saldan ya con más de 7.000 personas detenidas en Rusia y Bielorrusia Público, 3 Mawrth 2022. Cyrchwyd 3 Mawrth 2022.
  29. RAFAEL M. MAÑUECO Ucrania confirma que las fuerzas rusas han tomado la central nuclear de Zaporiyia Hoy, 4 Mawrth 2022. Cyrchwyd 4 Mawrth 2022.
  30. Rusia ataca la central nuclear de Zaporiyia, la mayor de Europa, y toma su control Público, 4 Mawrth 2022. Cyrchwyd 4 Mawrth 2022.
  31. https://www.lemonde.fr/international/live/2022/03/06/guerre-en-ukraine-en-direct-volodymyr-zelensky-appelle-l-occident-a-renforcer-les-sanctions-contre-la-russie 6116339 3210.html, Le Monde, 6 Mawrth 2022
  32. Ukraine: Xi Jinping soutient l'action de Paris et Berlin pour un cessez-le-feu, dit l'Elysée (archif) zonebourse.com, 8 Mawrth 2022
  33. Guerre en Ukraine : ce que l'on sait du bombardement d'un hôpital pédiatrique à Marioupol (archif) CNEWS, 9 Mawrth 2022
  34. Guerre en Ukraine : échec des pourparlers ukraino-russes en Turquie (archif) Le Monde, 10 Mawrth 2022
  35. Vladimir Poutine ordonne de faciliter l'envoi de combattants "volontaires" en Ukraine BFMTV, 11 Mawrth 2022
  36. Guerre en Ukraine: la Russie recrute des mercenaires syriens (archif) Le Monde, 11 Mawrth 2022
  37. Invasion russe : plus de 2,5 millions de personnes ont fui l'Ukraine, selon l'ONU Le Figaro, 11 Mawrth 2022
  38. Guerre en Ukraine : la Russie bombarde sans relâche certaines villes sans céder à la pression diplomatique Le Monde, 12 Mawrth 2022
  39. Estado de la invasión rusa a Ucrania cuando cumple el día 17 Público 13 Mawrth 2022. Alirita la 13 Mawrth 2022.
  40. "Nato yn ofni y gallai Rwsia ddefnyddio arfau cemegol a niwclear". 2022-03-24.
  41. "Merch fach o Wcráin yn perfformio yn Côr Cymru 2022". GWefan BBC Cymru. 2022-04-03.
  42. {{cite web |url=https://newyddion.s4c.cymru/article/7014 |title=Amelia, merch saith oed o Wcráin, yn canu’n fyw ar S4C nos Sul |publisher=Gwefan Newyddion S4C |date=2022-04-03{{
  43. "Reports coming out of Ukraine that the Ukrainian military is forming a unit of Russian POWs (and other "honest, normal Russians") who have "voluntarily crossed over to the side of good."". Twitter @juliaioffe Julia Ioffe. 2022-04-07.
  44. "Mariupol steelworks: 'Block it so a fly can't pass,' Putin orders". Gwefan BBC. 2022-04-22.