Dim digon o arian i ddarparu gwasanaethau hanfodol - cynghorau

Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark Drakeford wedi cyhoeddi cynllun gwario gwerth £26bn

  • Cyhoeddwyd

Mae yna rybudd gan rai o arweinwyr cynghorau Cymru, na fyddan nhw'n gallu darparu gwasanaethau hanfodol, neu y gallen fynd i'r wal, er gwaetha'r hwb ariannol gan Lywodraeth Cymru.

Mae £235m yn ychwanegol i awdurdodau lleol yng nghyllideb ddrafft y llywodraeth - llai na hanner yr hyn mae cynghorau yn ei ddweud sydd ei angen i lenwi'r bwlch ariannol yn eu cyllidebau.

Yn ôl arweinydd Cyngor Sir y Fflint, Dave Hughes, mae'r bygythiad o fod yn fethdalwyr yn parhau, ac mae "lot o awdurdodau eraill yn yr un sefyllfa â ni."

Dywedodd Gary Pritchard, arweinydd cyngor Ynys Môn, bod hwn yn setliad mwy na'r disgwyl, ond nad ydyn nhw wedi cael "yr arian sydd ei angen er mwyn sicrhau ein bod ni'n gallu cynnal y gwasanaethau hynny mae'n rhaid i awdurdod ei gynnal."

Dod â chynghorau 'yn ôl o'r dibyn'

Mae Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, yn cydnabod na fydd yr arian yma yn datrys "eu holl broblemau", ond mae'n dweud y bydd yn dod â chynghorau "yn ôl o'r dibyn".

Mae £6.1bn ar gyfer cynghorau Cymru'r flwyddyn nesaf, er mwyn ariannu gofal cymdeithasol, addysg, llyfrgelloedd a gwasanaethu lleol eraill.

Casnewydd fydd yn cael y cynnydd mwyaf sef 5.6%, tra bod 5.3% yn fwy o arian i Gaerdydd.

2.8% yw'r cynnydd i Sir Fynwy, a 3.2% i Bowys a Gwynedd.

Mae'r gwahaniaeth wedi'i feirniadu gan y Ceidwadwyr, sy'n dweud bod y fformiwla ariannu sy'n cael ei ddefnyddio wedi "torri", tra bod Plaid Cymru yn honni nad yw'r arian yn ddigon.

Mae'r swm y mae cynghorau yn ei dderbyn yn amrywio yn ôl fformiwla, sy'n ystyried anghenion y boblogaeth a gallu cynghorau i godi arian drwy dreth.

Ond mae Mark Drakeford wedi awgrymu y byddai'n ystyried cefnogaeth bellach i'r cynghorau sydd â'r cynnydd lleiaf.

Mae yna rybudd hefyd nad yw'r arian ychwanegol ar gyfer gofal plant yn ddigonol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae arweinwyr rhai cynghorau yn poeni na fyddan nhw'n gallu darparu gwasanaethau hanfodol

Yn ôl Llywodraeth Cymru, fe fyddan nhw'n cynyddu'r arian sy'n cael ei dalu i ddarparwyr gofal plant o £5 i £6 yr awr.

Ond dyw hynny dal ddim yn ddigon yn ôl y sefydliad sy'n cynrychioli meithrinfeydd Cymru.

Dywedodd Prif Weithredwr National Day Nurseries Association, Purnima Tanuku, eu bod yn croesawu'r cynnydd, ond "nad yd yw'n ddigon i dalu am gostau cynyddol darparwyr".