MairTHOMASYn dawel yn Ysbyty Glangwili ar nos Iau, 26ain o Fedi, yn 93 mlwydd oed, hunodd Mair, 3 Bro Helyg, Rhydargaeau, gynt o Pentre Bach, Peniel.
Priod ffyddlon y diweddar Eifion, mam gariadus Wyn, Steve a Roger, mam-yng-nghyfraith annwyl Rhian, mam-gu arbennig Lowri, Nicholas, Jason a Natalie, hen fam-gu tyner Trystan, Bowen ac Ani.
Angladd Dydd Mercher, 9fed Hydref 2024. Gwasanaeth Preifat yn Amlosgfa Parc Gwyn, Arberth am 12.15pm.
Blodau'r teulu yn unig.
Rhoddion er cof, os dymunir, tuag at: "Cynghrair Cyfeillion Ysbyty Glangwili" trwy law Iwan Evans Trefnwyr Angladdau, Capel Gorffwys Login, Heol Llangynnwr, Caerfyrddin SA31 2PG 01267 237100
Keep me informed of updates