Walter Baade
Walter Baade | |
---|---|
Ganwyd | 24 Mawrth 1893 Schröttinghausen |
Bu farw | 25 Mehefin 1960 Göttingen |
Dinasyddiaeth | yr Almaen |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | seryddwr, astroffisegydd |
Cyflogwr |
|
Priod | Johanna Bohlmann |
Gwobr/au | Gwobr y Darlithydd, Henry Norris Russell, Medal Aur y Gymdeithas Seryddol Frenhinol, Medal Bruce |
Seryddwr o'r Almaen a weithiodd yn yr Unol Daleithiau o 1931 i 1959 oedd Wilhelm Heinrich (Walter) Baade (24 Mawrth 1893 – 25 Mehefin 1960). Trwy ei waith bu modd gwella'r amcangyfrif o oedran a maint y bydysawd.
Wedi ei eni yn Schréttinghausen, bu'n astudio ym Mhrifysgolion Münster a Göttingen, a bu'n gweithio yn arsyllfa Hamburg rhwng 1919 a 1931. Ymfudodd i'r Unol Daleithiau ym 1931 gan wario gweddill ei yrfa yn arsyllfeydd Mount Wilson (1931-58) a Palomar (1948-58). Sigl effaith y blacowt adeg yr Ail Ryfel Byd oedd lleihau llygredd golau trwy'r byd; bu hyn o gymorth i arsylwadau Baade gan ganiatáu iddo ganfod a dosbarthu sêr mewn ffurf newydd a defnyddiol. Llwyddodd i wella gwerthoedd Hubble parthed maint ag oedran y bydysawd. Bu hefyd yn gweithio ar uwchnofâu ac ar radio-sêr. Bu'n athro yn Göttingen o 1959 i 1960[1]