W. F. Grimes
W. F. Grimes | |
---|---|
Ganwyd | 31 Hydref 1905 Penfro |
Bu farw | 25 Rhagfyr 1988 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | archeolegydd, archaeolegydd cynhanes |
Swydd | cyfarwyddwr |
Cyflogwr |
|
Gwobr/au | CBE |
Archaeolegydd o Gymru oedd yr Athro William Francis Grimes (31 Hydref 1905 – 25 Rhagfyr 1988), a gyhoeddai wrth yr enw W. F. Grimes. Ei brif feysydd oedd archaeoleg Llundain a chynhanes Cymru. Roedd yn frodor o Sir Benfro.
Cafodd ei addysg brifysgol ym Mhrifysgol Cymru. Bu'n Geidwad Cynorthwyol Adran Archaeoleg Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd, o 1926 hyd 1938. Bu'n llywydd Cymdeithas Archaeolegol y Cambrian, cadeirydd y Comisiwn Brenhinol ar Henebion yng Nghymru ac ymgymerodd hefyd a sawl post cyhoeddus arall ym maes archaeoleg.
Yn ystod y 1950au a'r 1960au cloddiodd sawl gwaith yn Llundain yn rhinwedd ei swydd fel cyfarwyddwr Amgueddfa Llundain a'r Astudfa Archaeoleg, y sefydliad o fewn Prifysgol Llundain a sefydlwyd gan Syr Mortimer Wheeler yn 1937. Bu'n athro archaeoleg yno hyd ei ymddeol yn 1973.
Un o ddarganfyddiadau pwysicaf Grimes oedd Mithraeum Llundain yn 1954, teml Rufeinig yn gysegredig i'r duw Mithras. Enghraifft gynnar o archaeoleg achub oedd hyn, gan fod y safle, a fomiywd yn y rhyfel, yn cael ei datblygu.
Cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod](detholiad)
- The Megalithic Monuments of Wales (1936)
- The Prehistory of Wales (1951)
- "Excavations in the City of London", yn Recent Archaeological Excavations in Britain, gol. Bruce-Mitford R.L.S. (Llundain, 1956)