Thomas Stanley, iarll cyntaf Derby
Thomas Stanley, iarll cyntaf Derby | |
---|---|
Ganwyd | 1 Ionawr 1435 Lathom |
Bu farw | 29 Gorffennaf 1504 Swydd Gaerhirfryn |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | aelod o Dŷ'r Arglwyddi |
Tad | Thomas Stanley |
Mam | Joan Goushill |
Priod | Margaret Beaufort, Eleanor Neville |
Plant | George Stanley, James Stanley, Edward Stanley, 1st Baron Monteagle |
Gwobr/au | Urdd y Gardas |
Uchelwr cyfoethog a thad-gwyn Harri Tudur oedd Thomas Stanley (1435 – 29 Gorffennaf 1504), iarll cyntaf Derby, a Brenin Manaw (yr olaf i ddefnyddio'r enw). Ef oedd mab hynaf Thomas Stanley, barwn cyntaf Stanley a Joan Goushill. Drwy ei fam, roedd yn un o ddisgynyddion Edward I (drwy Elisabeth o Ruddlan), Iarlles Henffordd a thrwy deulu FitzAlan roedd yn ddisgynnydd Harri III. Priododd Eleanor, merch yr Iorcydd Richard Neville, 5ed iarll Salisbury yn gyntaf; roedd hi'n chwaer i Richard Neville, iarll Warwick ("Y Gwneuthurwr Brenhinoedd"). Yna, yn 1472 priododd Margaret Beaufort, mam Harri Tudur, wedi iddi golli ei gŵr cyntaf Edmwnd Tudur oedd o deulu Cymreig, a Lancastriad i'r carn.
Roedd yn dirfeddianwr pwerus a chyfoethog, ac roedd y rhan fwyaf o'i diroedd yng ngogledd-orllewin Lloegr ble gweithredai fel brenin ar adegau, heb neb yn meiddio'i wrthwynebu. Y nodwedd bwysicaf ohono efallai yw iddo gadw'i ben - a chadw perthynas dda gyda sawl brenin drwy gydol Rhyfel y Rhosynnau, tan iddo farw yn 1504. Roedd ei diroedd yn cynnwys y mannau a elwir heddiw yn Tatton Park (Swydd Gaer), Lathom House (Swydd Gaerhirfryn) a Derby House yn ninas Llundain; ef hefyd oedd siambrlen Gogledd Cymru.
Disgrifir ef ym Mywgraffiadur Rhydychen fel dyn o allu a gweledigaeth miniog, a mwy na thebyg y dyn mwyaf pwerus o'i oes.[1]
Gyda'i frawd William, ar y funud olaf, ochrodd gyda Harri Tudur ym Mrwydr Bosworth, a dywed Vergil mai Thomas Stanley a gododd goron Richard II o'r llawr a'i roi ar ben Harri Tudur.
Brwydr Maes Bosworth
[golygu | golygu cod]- Prif: Brwydr Maes Bosworth
Margaret Beaufort, ei wraig, a mam Harri Tudur oedd wrth wraidd gwrthryfel aflwyddiannus 1483, pan drodd saith llong o Lydaw yn eu holau, a phan dienyddiwyd gwrthryfelwyr fel Henry Stafford, ail ddug Buckingham, roedd Richard III mewn cyfyng-gyngor beth i'w wneud gyda Margaret. Yn hytrach nag ymuno gyda gwrthryfel Buckingham, beth wnaeth Thomas Stanley oedd dim. Nid ochrodd gyda'i wraig Margaret a Harri, a thrwy hynny, roedd yn deyrngar i Richard. Gwobrwywyd ef gan y brenin: gydag arglwyddiaeth Kimbolton a maenor Buckingham yn Thornbury yn Swydd Gaerloyw, a derbyniodd lawer o diroedd yn Lloegr a pheth yng Nghymru. Roedd eisoes (o dan Buckingham) yn un o uchelwyr grymusaf Cymru. Nid ymunodd y Cymru yn y gwrthryfel cyntaf, aflwyddiannus, hwn - yn bennaf gan nad oedd Thomas Stanley yn rhan o'r ymgyrch. Yn eu barn nhw, Sais oedd Henry Stafford, ac nid oes tystiolaeth i unrhyw uchelwr o Gymro ei ddilyn. Yn hytrach na dienyddio Margaret am ei rôl blaenllaw yn yr ymgyrch, tynnodd Richard III ei harian oddi wrthi a'i roi i'w gŵr; yn yr un modd tynnodd ei gweision a'i morynion oddi wrthi a'i chaethiwo dan ofal ei gŵr.
Roedd Richard wedi'i amau ef a'i frawd iau William ers tro, ac ofnodd y byddai'n deyrngar i'w wraig a'i mab Harri, a gwireddwyd hyn. Yn haf 1485 mynnodd Richard III fod Thomas yn danfon ei fab (George Lord Strange) ato fel gwystl, a gwnaed hynny. Pan laniodd Harri ym Mhenfro danfonodd y brenin orchymyn i Thomas ddod ato i Nottingham, ond ni ufuddhaodd Thomas. Yn ôl y gerdd Bosworth Field roedd Thomas Stanley ym Manceinion ac ar ei ffordd i Nottingham pan drawyd ef yn wael. Yn ôl cerdd Gymraeg o'r cyfnod hwn, cymerodd y brenin gwystl arall: nai William Stanley (ar ochr ei wraig) sef William Gruffudd a wnaed yn Siambarlen Gwynedd yn 1843.[2] Pe bai Thomas neu William wedi ochri gyda Harri'n agored, byddai'r ddau wystl wedi'u dienyddio.
Shakespeare
[golygu | golygu cod]Mae Shakespeare yn gosod Stanley yn gymeriad allweddol yn ei ddrama Richard III sy'n amau ei frenin o gychwyn y ddrama a hyn yn ei arwain i gyd-gynllwynio gyda Harri Tudur ac yn weithredol iawn yn y frwydr i'w orseddu'n frenin. Credir i'r ddrama hon gael ei sgwennu rhwng 1592–93.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cyfieithiad o: Stanley was “a man of considerable acumen, and probably the most successful power-broker of his age”. Oxford Dictionary of National Biography. 2004.
- ↑ Bosworth - The Birth of the Tudors gan Chris Skidmore; t. 250; Phoenix Press; 2013.
- ↑ Dobson, Michael; Wells, Stanley, gol. (2001). The Oxford Companion to Shakespeare. Oxford University Press. ISBN 9780198117353.CS1 maint: multiple names: editors list (link)