Robert Fitz-Stephen
Robert Fitz-Stephen | |
---|---|
Ganwyd | 12 g |
Bu farw | 1183 |
Galwedigaeth | person milwrol |
Tad | Stephen |
Mam | Nest ferch Rhys ap Tewdwr |
Plant | Ralph |
Arglwydd Normanaidd Cymreig oedd Robert Fitz-Stephen (fl. tua 1150). Roedd yn fab i Nest ferch Rhys ap Tewdwr a Stephen, cwnstabl castell Aberteifi.
Hanes
[golygu | golygu cod]Pan ymosododd Harri II, brenin Lloegr ar Wynedd yn 1157, roedd Robert a'i hanner brawd Henry Fitz Roy (mab Nest gan y brenin Harri I, brenin Lloegr) ymysg arweinwyr y fyddin a yrrwyd i ymosod ar Ynys Môn tra'r oedd byddin y brenin yn wynebu byddin Owain Gwynedd i'r dwyrain o Afon Conwy. Gorchfygwyd yr ymosodiad, lladdwyd Henry a chlwyfwyd Robert yn ddifrifol.
Ym mis Tachwedd 1165, cymerwyd Robert yn garcharor gan Rhys ap Gruffudd (Yr Arglwydd Rhys). Yn 1167, teithiodd Diarmuid Mac Murchadha, cyn-frenin Leinster yn Iwerddon, i Loegr i apelio am gymorth i adfeddiannu ei deyrnas, ac ymddengys iddo ofyn i Rhys ryddhau Robert i'w gynorthwyo yn Iwerddon. Ni ryddhaodd Rhys ef yn syth, ond wedi apêl bellach, gwnaeth hynny yn 1168.
Yn 1169, arweiniodd Robert y rhan gyntaf o fyddin o Normaniaid, o Gymru yn bennaf, i Iwerddon, a chipiodd Loch Garman (Wexford). Cymerwyd ef yn garcharor gan y Gwyddelod yn 1171. Yn ddiweddarach, rhyddhawyd ef, a rhoddodd y brenin Harri II Swydd Corc iddo fel arglwyddiaeth, ar y cyd a Miles Cogan.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- John Edward Lloyd (1911) A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.)