Plaid Cydraddoldeb Menywod
Enghraifft o'r canlynol | plaid wleidyddol |
---|---|
Idioleg | ffeministiaeth, pro-Europeanism |
Daeth i ben | 17 Tachwedd 2024 |
Dechrau/Sefydlu | 2 Mawrth 2015 |
Sylfaenydd | Catherine Mayer, Sandi Toksvig |
Pencadlys | Brixton |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | http://www.womensequality.org.uk/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Plaid Cydraddoldeb Menywod (en: Women's Equality Party) yn blaid wleidyddol ffeministaidd a sefydlwyd yn y Deyrnas Unedig yn 2015. Sefydlwyd y blaid gan Catherine Mayer a Sandi Toksvig yng Ngŵyl Merched y Byd. Sophie Walker oedd yr arweinydd yn 2015. Cyhoeddwyd amcanion y blaid yn Conway Hall, Llundain ar 20 Hydref 2015. Ym mis Ionawr 2020, cymerodd Mandu Reid drosodd fel arweinydd y blaid.[1]
Mae prif amcanion y blaid yn cynnwys:[2]
- Cynrychiolaeth gyfartal mewn gwleidyddiaeth a busnes;
- Cynrychiolaeth gyfartal mewn addysg;
- Cyflog cyfartal;
- Trin merched yn gyfartal gan ac yn y cyfryngau;
- Hawliau rhianta cyfartal;
- Diwedd ar drais yn erbyn menywod.
- Cydraddoldeb mewn gofal iechyd ac ymchwil feddygol
Safodd y blaid etholiad am y tro yn Gyntaf yn 2016 gydag ymgeisydd ar gyfer Maer Llundain ac ymgeiswyr ar gyfer Cynulliad Llundain, Senedd yr Alban a Chynulliad Cymru. Safodd saith ymgeisydd yn Etholiad Cyffredinol y DU 2017, tri ymgeisydd yn Etholiad Cyffredinol 2019 a phedwar yn etholiad 2024 (dwy ohonynt yn etholaethau Cymreig Caerfyrddin a Chanol a De Sir Benfro.)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Women's Equality". Women's Equality (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-07-10.
- ↑ "Women's Equality Party announces first policies and campaigns". Women's Equality (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-07-10.