Peter Kay
Peter Kay | |
---|---|
Ganwyd | 2 Gorffennaf 1973 Farnworth |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | digrifwr, actor, sgriptiwr, digrifwr stand-yp, actor ffilm, canwr, cynhyrchydd ffilm, actor teledu |
Gwobr/au | British Academy Television Award for Best Male Comedy Performance |
Gwefan | https://www.peterkay.co.uk |
Mae Peter John Kay (ganwyd 2 Gorffennaf, 1973) yn ddigrifwr, ysgrifennwr, cynhyrchydd ac actor Seisnig. Mae ei waith yn cynnwys That Peter Kay Thing (2000), Phoenix Nights (2001), Max and Paddy's Road to Nowhere (2004), Britain's Got the Pop Factor... (2008) a chynhyrchiadau annibynnol eraill.
Ganwyd Kay yn Farnworth, Swydd Gaerhirfryn, a mynychodd Ysgol Uwchradd Mynydd San Joseph. Gadawodd yr ysgol gyda un TGAU yng Nghelf. Wedi iddo adael, cafodd swyddi amrywiol gan gynnwys gweithio mewn ffatri papur tŷ bach, archfarchnad Netto a Neuadd Fingo, a ysbrydolodd rhaglenni neu ddigwyddiadau yn That Peter Kay Thing. Dechreuodd gwrs gradd ym Mhrifysgol Lerpwl ond ni allai ymdopi â'r gwaith ysgrifenedig ac felly gadawodd. Aeth ymlaen i astudio Diploma Cenedlaethol Uwch yn Perfformio yn y Cyfryngau ym Mhrifysgol Salford a chwblhaodd y cwrs. Roedd y cwrs hwn yn cynnwys hiwmor sefyll i fyny, rhywbeth y rhagorai Kay ynddo. Cafodd ei brofiad cyntaf o berfformio hiwmor sefyll i fyny mewn cystadleuaeth ym Manceinion, a diddorol yw nodi mai cyflwynydd y noson oedd Dave Spikey a ysgrifennodd Phoenix Nights ar y cyd a Kay. Enillodd Kay y gystadleuaeth, gan faeddu ei gyd-ddigrifwr Johnny Vegas.
Ffilmograffiaeth
[golygu | golygu cod]- New Voices [y rhaglen "Two Minutes"] (1997)
- Coronation Street (Adeiladwr siop) (1997)[1]
- Comedy Lab [y rhaglen "The Services"] (1998)
- Live at the Top of the Tower (2000)
- That Peter Kay Thing (2000)
- Phoenix Nights (2001-2002)
- 24 Hour Party People [Don Tonay - Perchennog Clwb] (2002)
- Live at the Bolton Albert Halls (2003)
- Roddy Smythe Investigates... (2003)
- Max and Paddy's Road to Nowhere (2004)
- Coronation Street (Eric Gartside) (2004)[1]
- Live at the Manchester Arena (2005)
- The League of Gentlemen's Apocalypse (2005)
- Peter Kay: Driven to Distraction (2005)
- Max and Paddy's Power of Two (2005)
- Wallace & Gromit: The Curse of the Were-Rabbit [PC MacIntosh] (2005)[2]
- The Catherine Tate Show (Gwestai Arbennig) (2005)[1]
- Doctor Who - Love & Monsters (Darlledwyd 17 Mehefin 2006)[2]
- Little Britain Abroad (Sioe Nadolig 2006)
- Comic Relief Does Little Britain Live (DVD) (2007)
- Peter Kay - Stand Up UKay (DVD) (2007)
- Roary the Racing Car (Trosleisio (Big Chris)) (2007-presennol)[3]
- Britain's Got the Pop Factor... and Possibly a New Celebrity Jesus Christ Soapstar Superstar Strictly On Ice (2008)[4]
- Geraldine - The Winners Story (2008)