Omsk
Math | uned weinyddol o dir yn Rwsia, tref/dinas, dinas fawr |
---|---|
Poblogaeth | 1,110,836 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Oksana Fadina |
Cylchfa amser | UTC+06:00 |
Gefeilldref/i | Pavlodar, Petropavl, Łódź, Lublin, Gdańsk, Simferopol, Kaifeng, Púchov, Karlovy Vary, Jinju, Milwaukee, Angarsk, Antalya, Bratsk, Bryansk, Burgas, Fuzhou, Gomel, Gorno-Altaysk, Kaliningrad, Krasnoyarsk, Minsk, Novosibirsk, Penza, Stavropol, Chelyabinsk, Ulan-Ude, Surgut, Nizhnevartovsk, Mahilioŭ |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Rwseg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Oblast Omsk, Gwladwriaeth Ffederal, Sosialaidd, Sofietaidd Rwsia, Oblast Omsk, Krai Gorllewin Siberia, Ardal Omsk, Siberia Krai, Llywodraeth Omsk, Omsk Uyezd |
Gwlad | Rwsia |
Arwynebedd | 572.9 km² |
Uwch y môr | 90 metr |
Gerllaw | Afon Om, Afon Irtysh |
Yn ffinio gyda | Omsky District |
Cyfesurynnau | 54.97°N 73.38°E |
Cod post | 644000–644960 |
Pennaeth y Llywodraeth | Oksana Fadina |
Dinas fawr a phorthladd pwysig yn Siberia, Rwsia yw Omsk (Rwseg: Омск). Gyda phoblogaeth o 1,129,281, Omsk yw dinas ail fwyaf Siberia, ar ôl Novosibirsk, a'r seithfed fwyaf yn Rwsia gyfan. Fe'i lleolir 2,700 km (1,700 milltir) i'r dwyrain o Foscow yn ne-orllewin Siberia ac mae'n brifddinas Omsk Oblast.
Gorwedd ar gymer afonydd Irtysh a Om ar lwybr y Rheilffordd Traws-Siberia. Mae'n ganolfan ddiwydiannol a chroesffordd cludiant o bwys.
Yng nghyfnod Ymerodraeth Rwsia, roedd Omsk yn sedd Llywodraethwr Cyffredinol Gorllewin Siberia, ac yn nes ymlaen yn sedd Llywodraethwr Cyffredinol y Steppes. Am gyfnod byr yn ystod Rhyfel Cartref Rwsia yn 1918–1919, cafodd ei chyhoeddi yn brifddinas Rwsia a diogelwyd cronfa aur y wlad yno.
Omsk yw canolfan weinyddol Cossacks Siberia, a cheir cadeirlan Esgob Omsk a Tara a sedd imam Siberia yno hefyd.
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]- Amgueddfa Mikhail Vrubel
- Eglwys Gadeiriol Sant Niclas
- Theatr Drama Omsk
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Mikhail Vrubel (1856-1910), arlunydd
- Yuri Titov (g. 1935), athletwr
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Rwseg) Gwefan Dinas Omsk