Maes Awyr Llanbedr
Math | maes awyr, gorsaf awyr |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1941 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llanbedr, Cymru, Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 24 metr |
Cyfesurynnau | 52.805°N 4.127°W |
Rheolir gan | yr Awyrlu Brenhinol |
Maes Awyr Llanbedr | |||
---|---|---|---|
IATA: none – ICAO: EGFD | |||
Crynodeb | |||
Rheolwr | Llanbedr Airfield Estates LLP | ||
Gwasanaethu | Gwynedd | ||
Lleoliad | Llanbedr, Gwynedd | ||
Uchder | 80 tr / 24 m | ||
Gwefan | |||
Lleiniau glanio | |||
Cyfeiriad | Hyd | Arwyneb | |
tr | m | ||
05/23 | 4,328 | 1,319 | Asffalt |
15/33 | 4,207 | 1,282 | Asffalt |
Maes awyr hedfan cyffredinol ger Llanbedr, Gwynedd, ym Mharc Cenedlaethol Eryri yw Maes Awyr Llanbedr (ICAO:EGFD), neu gynt RAF Llanbedr (ICAO: EGOD).
Wedi deng blynyddoedd ar gau, ailagorwyd y Maes Awyr fel maes awyr cyhoeddus ym Mai 2014.
Hanes
[golygu | golygu cod]Agorwyd y maes awyr fel ganolfan awyr yr Awyrlu Brenhinol yn 1941. Ers hynny, ailenwyd y maes awyr sawl gwaith wrth i'r cyfleuster newid dwylo rhwng breichiau gwahanol Y Weinyddiaeth Amddiffyn:
- RAF Llanbedr nes 1957
- RAE Llanbedr nes 1992
- T&EE Llanbedr nes 1995
- DTEO Llanbedr nes 1997
- DERA Llanbedr nes 2001, pan daeth y rhan fwyaf cyfleusterau DERA yn rhan o QinetiQ.
Tra bod yn ganolfan yr Awyrlu Brenhinol, Defnyddiwyd y maes awyr i lansio targedau am ymarferion brwydr yn yr awyr dros Fae Ceredigion. Cynnalwyd gweithredoedd gan y Grŵp Rhif 12 yr RAF. Ar ôl 1992, cymerodd y maes awyr rôl lai milwrol, gysylltiol â phrofion a datblygu. Parhaodd hyn nes 2004 pan giliodd Y Weinyddiaeth Amddiffyn o'r safle, yn cymryd cyfarpar mordwyo a rheolaeth traffig awyr i ffwrdd.