Neidio i'r cynnwys

Luisa Futoransky

Oddi ar Wicipedia
Luisa Futoransky
Ganwyd5 Ionawr 1939 Edit this on Wikidata
Buenos Aires Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ariannin Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Rhaglen Ysgrifennu Rhyngwladol
  • Prifysgol Buenos Aires Edit this on Wikidata
Galwedigaethllenor, bardd, cyfieithydd Edit this on Wikidata
Arddullbarddoniaeth Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrodoriaeth Guggenheim Edit this on Wikidata

Nofelydd a bardd yn yr iaith Sbaeneg o'r Ariannin yw Luisa Futoransky (ganwyd 5 Ionawr 1939) sy'n nodedig am y digrifwch main a dadadeiladol sy'n lliwio'i ffuglen a'r darluniau o unigrwydd y mae'n telynegu yn ei barddoniaeth.

Ganwyd yn Buenos Aires, prifddinas yr Ariannin, i deulu Iddewig. Symudodd i Sbaen yn 1971, a bu'n byw hefyd yn yr Eidal, Japan, a Tsieina cyn iddi ymgartrefu yn Ffrainc yn 1981. Gweithiodd fel newyddiadurwraig ym Mharis. Teithiodd yn fynych i Israel, a hefyd i brifysgolion yn yr Unol Daleithiau ym mha le'r oedd hi'n cynnal gweithdai barddoniaeth.[1]

Ystyrir ei gwaith yn nodweddiadol o ddigrifwch ac hunaniaeth yr Iddew. Yn ogystal â thynnu ar agweddau o'i phrofiad diwylliannol, ysgrifennai Futoransky am themâu serch, taith, alltudiaeth, a benywdod, ac hynny mewn arddull sy'n cyfuno ieithwedd aruchel a llafar gwlad.[1]

Gwobrwywyd Cymrodoriaeth Guggenheim iddi yn 1991, a fe'i phenodwyd i urdd Chevalier des Arts et Lettres.[2]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Barddoniaeth

[golygu | golygu cod]
  • Partir, digo (Valencia: Editorial Prometeo, 1982).
  • La sanguina (1987)
  • La parca, enfrente (1995)
  • Antología poética (Buenos Aires: Fondo Nacional de las Artes, 1996).
  • Cortezas y fulgores (1997)
  • De dónde son las palabras (Barcelona: Plaza & Janés, 1998).
  • Prender de gajo (Madrid: Calambur, 2006).

Nofelau

[golygu | golygu cod]
  • Son cuentos chinos (1983)
  • De Pe a Pa (o de Pekín a París) (Barcelona: Editorial Anagrama, 1986).
  • Urracas (1992)
  • El Formosa (Buenos Aires: Leviatán, 2010).

Ysgrifau

[golygu | golygu cod]
  • Pelos (Madrid: Ediciones Temas de Hoy, 1990).
  • Lunas de miel (1996)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Florinda F. Goldberg, "Futoransky, Luisa yn Encyclopaedia Judaica (Thomson Gale, 2007). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 14 Gorffennaf 2019.
  2. Florinda F. Goldberg, "Futoransky, Luisa" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003, golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain; Routledge, 2004), t. 215.