Lein Arfordir y De
Enghraifft o'r canlynol | Q2731657, train service |
---|---|
Lled y cledrau | 1435 mm |
Gweithredwr | Chicago South Shore and South Bend |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Rhanbarth | Chicago, Burnham, Lake County, Porter County, LaPorte County, St. Joseph County |
Gwefan | https://www.mysouthshoreline.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Lein Arfordir y De (Saesneg:South Shore Line) yn rheilffordd gymudwyr rhwng South Bend (Indiana) a Chicago (Illinois).
Hanes
[golygu | golygu cod]Ffurfiwyd cwmni Rheilffordd 'Chicago & Indiana Air Line' ar 2 Rhagfyr 1901, a dechreuodd y gwasanaeth rhwng Dwyrain Chicago a Harbwr Indiana ym Medi 1903.
Newidiwyd yr enw i "Reilffordd Chicago, Arfordir Llyn a South Bend" ym 1904 a dechreuodd gwaith adeiladu at South Bend ym 1906. Dechreuodd y gwasanaeth rhwng Dinas Michigan a South Bend ar 1 Gorffennaf 1908. Estynnwyd y lein i Hammond erbyn 8 Medi 1906 ac at Gary ym 1910. Dechreuodd y gwasanaeth i orsaf reilffordd Stryd Randolph ar 2 Mehefin 1912.
Ffurfiwyd Cwmni Rheilffordd Chicago, South Shore a South Bend ar 23 Mehefin 1925, a phrynodd y cwmni'r lein ar 29 Mehefin am $6,474,843. Cwbwlhawyd adeiladu'r lein ym mis Hydref. Newidiwyd foltedd y leini 1500 folt DC yng Ngorffennaf 1926.
Prynwyd y lein gan Reilffordd Chesapeake ac Ohio ar 3 Ionawr 1967.
Ffurfiwyd NICTD (Ardal Cluidiant Cymudwr Gogledd Indiana) ym 1977 er mwyn derbyn arian o'r llywodraeth, a derbynwyd grantiau ar gyfer cerbydau a chledrau erbyn 1979.
Ym 1989, aeth y cwmni Chicago, South Shore a South Bend yn fethdalwr. Prynwyd gwasanaethau nwyddau'r rheilffordd gan Reilffordd Anacosta a Pacific; mae NICTD yn berchennog y gwasanaethau i deithwyr, a phrynodd y cwmni'r lein ym 1990. Ym 1992, symudwyd Gorsaf reilffordd South Bend i Faes awyr South Bend.[1]