Neidio i'r cynnwys

Ieithoedd y Deyrnas Unedig

Oddi ar Wicipedia
Ieithoedd the United Kingdom
Arwydd amlieithog yn Llundain
Prif iaith/ieithoeddSaesneg (98%;[1] yn genedlaethol ac yn swyddogol de facto[a][2][3][4]
Iaith/Ieithoedd lleiafrifolAr draws y DU:
y Sgoteg (2.23%) (2022),[5] y Gymraeg (0.9%) (2021),[6] y Cernyweg  (<0.01% L2),[7][8][9] Gaeleg yr Alban, Gwyddeleg,[a] Sgoteg Wlster (0.05%),[10] Angloromaneg, Beurla Reagaird, Sielteg
Prif iaith/ieithoedd mewnfudoPwyleg, Pwnjabeg, Wrdw, Bengaleg, Sylheteg, Gwjarati, Arabeg, Ffrangeg, Tsieinëeg, Portiwgaleg, Sbaeneg, Tamileg[11]
Arwyddiaith/ArwyddieithoeddIaith Arwyddion Prydain, (0.002%)[c][12] Iaith Arwyddion Iwerddon, Saesneg arwyddion, Iaith Arwyddion Gogledd Iwerddon
Cynllun(iau) bysellfwrdd cyffredin
QWERTY Prydain
a.^ Noda'r ystadegau bobl sy'n gallu siarad o leiaf "yn dda".
b.^ Noda'r ystadegau bobl sydd â gallu sylfaenol.
c.^ Ystadegau yn ôl tybiaethau.

Saesneg yw'r iaith a siaredir gan fwyafrif o drigolion y Deyrnas Unedig, a hithau yn iaith swyddogol de facto y Deyrnas Unedig.[13][14] Siaredir sawl iaith ranbarthol a mewnfudol hefyd, sy'n cynnwys y Sgoteg a Sgoteg Wlster (sy'n ffurfiau ar y Saesneg), ac mae ieithoedd brodorol yn cynnwys yr ieithoedd Celtaidd, sef y Gymraeg, yr Wyddeleg, a'r Aeleg. Siaredir sawl iaith anfrodorol gan fewnfudwyr hefyd. Defnyddiwr Iaith Arwyddion Prydain weithiau, gan gynnwys ieithoedd litwrgïaidd megis Lladin a ffurf adfywiedig ar y Gernyweg.[15][16][17]

Mae'r Gymraeg yn iaith swyddogol de jure o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yng Nghymru.[18][19] Ymhellach, y Gymraeg yw'r unig iaith swyddogol de jure mewn unrhyw wlad yn y Deyrnas Unedig. Siaredir y Gymraeg gan 538,300 o bobl yng Nghymru yn ôl Cyfrifiad 2021,[20] er bod data oddi wrth Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn nodi yr oedd 28% o boblogaeth Cymru tair oed a throsodd, neu tua 862,700 o bobl, yn gallu siarad Cymraeg ym mis Mawrth 2024.[21] Bryd hynny hefyd, cofnododd 32.5% (1,001,500) eu bod yn gallu deall Cymraeg llafar, bod 24.7% (759,200) yn gallu darllen y Gymraeg, a bod 22.2% (684,500) yn gallu ysgrifennu'r Gymraeg.[21]

Mae tua 124,000 o bobl yn siarad yr Wyddeleg yng Ngogledd Iwerddon, sy'n iaith swyddogol ynghyd â'r Saesneg yng Ngogledd Iwerddon.[22]

Rhestr o ieithoedd a thafodieithoedd

[golygu | golygu cod]

Dengys y tabl isod ieithoedd brodorol byw y Deyrnas Unedig (Cymru, Lloegr, yr Alban, a Gogledd Iwerddon). Ni chynhwysir yma ieithoedd tiriogaeth sy'n ddibynnol y goron (Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw).

Iaith Math Siaredir yn Nifer o siaradwyr yn y DU
Saesneg Germanaidd (Germanaidd Gogleddol) Drwyddi draw'r Deyrnas Unedig
  • Y DU (data 2021): Yr oedd gan 91.1% (52.6 miliwn) o'r boblogaeth, tair oed a throsodd, y Saesneg (y Saesneg neu'r Gymraeg yng Nghymru) yn brif iaith (i lawr o 92.3%, neu 49.8 miliwn, yn 2011)[23]
Sgoteg (Sgoteg Wlster yng Ngogledd Iwerddon) Germanaidd (Germanaidd Gogleddol) Yr Alban (Iseldiroedd yr Alban, Cothnais, yr Ynysoedd Gogleddol) a Chaerferwig

Gogledd Iwerddon (Down, Antrim, a Deri)

  • Y DU (data 2022): 2.23%
  • Yr Alban: 27.74%, neu 1,508,540 o siaradwyr y Sgoteg (data Cyfrifiad yr Alban 2022)[24]
Cymraeg Celtaidd (Brythonaidd) Cymru (yn enwedig y dwyrain a'r gogledd) a rhannau o Loegr sydd ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr

Cymunedau Cymraeg mewn dinasoedd mawr Lloegr, megis Llundain, Birmingham, Manceinion, a Lerpwl.

  • Y DU (data 2021): 0.90%
  • Cymru (data 2021): 17.8%,[25] 538,300 o bobl yn ôl y cyfrifiad 2021; amcangyfrifwyd i tua 862,700 o bobl, neu 28%, o Gymru tair oed a throsodd yn medru siarad Cymraeg ym mis Mawrth 2024.[25][1]
Iaith Arwyddion Prydain BANZSL Drwyddi draw'r Deyrnas Unedig
  • 77,000; (data 2014)[26]
Gwyddeleg Celtaidd (Goedelaidd) Gogledd Iwerddon, gyda chymunedau yng Nglasgoed, Lerpwl, Manceinion, Llundain ayyb.
Angloromaneg Cymysg Siaredir gan gymunedau Teithwyr yn Lloegr, Cymru, a'r Alban
  • 90,000[27] (data 1990)
Gaeleg Celtaidd (Goedelaidd) Yr Alban (Ucheldiroedd yr Alban ac Ynysoedd Heledd gyda lleiafrifau sylweddol mewn sawl dinas yn yr Alban)

Cymuned fechan yn Llundain

Cernyweg Celtaidd (Brythonaidd) Cernyw (nifer bychan o siaradwyr yn Plymouth, Llundain, a de Cymru)
  • Y DU (data 2022): nododd 567 o bobl eu bod yn gallu siarad y Gernyweg yng Nghyfrifiad y DU yn 2021, neu 0.00083%[30]
  • Cernyw (data 2021): O boblogaeth o 570,300 adeg Cyfrifiad y DU yn 2021,[31] nododd 567 o bobl eu bod yn gallu siarad y Gernyweg, neu 0.00083%
Sielteg Cymysg Siaredir gan gymunedau o Deithwyr Gwyddeligdrwyddi draw'r Deyrnas Unedig
  • Tua 30,000 o bobl yn y DU. Llai na 86,000 ledled y byd.[32]
Iaith Arwyddion Iwerddon Arwyddion Ffrengig Gogledd Iwerddon Anhysbys
Iaith Arwyddion Gogledd Iwerddon BANZSL Gogledd Iwerddon Anhysbys

Ieithoedd rhanbarthol ac ystadegau

[golygu | golygu cod]
Dosbarthiad ieithoedd y Deyrnas Unedig (2021)
Saesneg
  
91.1%
Sgoteg
  
2.23%
Cymraeg
  
0.90%
Gaeleg
  
0.20%
Gwyddeleg
  
0.10%
Cernyweg
  
0.00083%
Hyfedredd Saesneg yng Nghymru a Lloegr yn 2011. Roedd y categori 'Saesneg' yn cynnwys y Gymraeg am drigolion Cymru.
Canan o'r bobl sy'n siarad y Saesneg yn brif iaith yn Llundain yn 2021.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Yn ôl Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011, gall 53,098,301 o bobl yng Nghymru a Lloegr, 5,044,683 o bobl yn yr Alban, ac 1,681,210 yng Ngogledd Iwerddon siarad Saesneg "yn dda" neu "yn dda iawn"; sef 59,824,194 o bobol. Felly, allan o 60,815,385 o breswylwyr y DU tair oed a throsodd, mae 98% yn dweud eu bod yn gallu siarad Saesneg "yn dda" neu "yn dda iawn".
  2. "United Kingdom". Languages Across Europe. BBC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 November 2020. Cyrchwyd 21 November 2013.
  3. United Kingdom; Key Facts. Commonwealth Secretariat. http://www.thecommonwealth.org/YearbookHomeInternal/139560/. Adalwyd 23 April 2008.
  4. "English language". Directgov. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 October 2012. Cyrchwyd 21 November 2013.
  5. Scots - Languages - gov.scot. Allan o 67.6 miliwn o bresylwyr tair oed a thosodd y DU, gall 1,508,540 (2.23%) siarad Sgoteg, dolen.
  6. Ar ddiwrnod Cyfrifiad 2021, roedd 59,597,300 o breswylwyr yng Nghymru a Lloegr, a datganodd 538,300 o bobl eu bod yn gallu siarad Cymraeg Cyfrifiad 2021 o wefan Comisiynydd y Gymraeg
  7. "Language in England and Wales: 2011". Cyrchwyd 10 September 2022.
  8. "The rebirth of Britain's 'lost' languages". Cyrchwyd 25 October 2022.
  9. Hurn, Brian J. (2013). Cross-cultural communication : theory and practice. Barry Tomalin. Houndmills, Basingstoke, Hampshire: Palgrave Macmillan. t. 65. ISBN 978-0-230-39114-7. OCLC 844188225.
  10. Anorak, Scots. "Ulster Scots in the Northern Ireland Census". Scots Language Centre. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 May 2015. Cyrchwyd 21 November 2013.
  11. "2011 Census: Quick Statistics". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 August 2014. Cyrchwyd 17 May 2014.
  12. "BSL Statistics". Sign Language Week. British Deaf Association. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 April 2021. Cyrchwyd 5 February 2021.
  13. "Toponymic guidelines for map and other editors, United Kingdom of Great Britain and Northern Ireland". GOV.UK (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-28.
  14. "Home". Cambridge University Press. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 July 2021. Cyrchwyd 6 July 2016.
  15. "Language in England and Wales - Office for National Statistics". www.ons.gov.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 January 2019. Cyrchwyd 2020-07-23.
  16. Mac Síthigh, Daithí (March 2018). "Official status of languages in the United Kingdom and Ireland". Common Law World Review 47 (1): 77–102. doi:10.1177/1473779518773642.
  17. Dunbar, R (2007). Diversity in addressing diversity: Canadian and British legislative approaches to linguistic minorities and their international legal context. In: Williams C (ed) Language and Governance. Cardiff: University of Wales Press. t. 104.
  18. "Welsh Language (Wales) Measure 2011". legislation.gov.uk. The National Archives. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 April 2016. Cyrchwyd 30 May 2016.
  19. "Welsh Language Measure receives Royal Assent". Welsh Government. 11 Chwefror 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 September 2013. Cyrchwyd 21 November 2013.
  20. "Welsh language in Wales (Census 2021)". GOV.WALES (yn Saesneg). 6 December 2022. Cyrchwyd 2022-12-06.
  21. 21.0 21.1 "Welsh language data from the Annual Population Survey: April 2023 to March 2024". Welsh language data from the Annual Population Survey: April 2023 to March 2024. Welsh Government. 27 June 2024. Cyrchwyd 11 August 2024.
  22. "Irish language and Ulster Scots bill clears final hurdle in Parliament". BBC News (yn Saesneg). 2022-10-26. Cyrchwyd 2022-10-27.
  23. "Language, England and Wales - Office for National Statistics". www.ons.gov.uk. Cyrchwyd 2024-09-23.
  24. "Scots". Scottish Government (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-06-29.
  25. 25.0 25.1 Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw :02
  26. "British Sign Language (BSL)".
  27. "Angloromani". Ethnologue. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 May 2020. Cyrchwyd 21 November 2013.
  28. "Scotland's Census 2022 - Ethnic group, national identity, language and religion". Scotland's Census (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-23.
  29. Statistics Canada, Nova Scotia (Code 12) (table), National Household Survey (NHS) Profile, 2011 NHS, Catalogue No. 99‑004‑XWE (Ottawa: 2013‑06‑26)
  30. "EUROPEAN CHARTER FOR REGIONAL OR MINORITY LANGUAGES". 3 August 2023.
  31. "How life has changed in Cornwall: Census 2021". sveltekit-prerender (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-23.
  32. "Shelta". Ethnologue. 19 February 1999. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 June 2010. Cyrchwyd 18 August 2013.