Hollyoaks
Hollyoaks | |
---|---|
Genre | Opera sebon |
Serennu | Rhestr o gymeriadau Hollyoaks |
Gwlad/gwladwriaeth | DU |
Iaith/ieithoedd | Saesneg |
Cynhyrchiad | |
Amser rhedeg | c.25 munud |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | Channel 4 |
Darllediad gwreiddiol | 23ain o Hydref, 1995 – Presennol |
Dolenni allanol | |
Gwefan swyddogol |
Mae Hollyoaks yn opera sebon yn y DU a ddarlledwyd am y tro cyntaf ar y 23ain o Hydref, 1995 ar Sianel 4. Yn wreiddiol, syniad Phil Redmond a ddyfeisiodd y rhaglenni Brookside a Grange Hill oedd Hollyoaks. Lleolir y rhaglen yn un o faesdrefi ffuglennol Caer o'r enw Hollyoaks, ac mae'r llinynau stori yn gwirdroi o amgylch coleg addysg bellach lleol o'r enw Hollyoaks Community College. Mae'r mwyafrif o'r cymeriadau yn eu harddegau hwyr neu ugeiniau cynnar. Ers 1995, mae'r cast wedi datblygu o saith prif gymeriad yn unig i oddeutu 50 o aelodau.
Ar hyn o bryd, cyfarwyddir y sioe gan Lucy Allan a olynodd Bryan Kirkwood fel cynhyrchydd ar ddiwedd 2008.
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]Sienna Blake
[golygu | golygu cod]Cymeriad direidus yw Sienna Blake sydd wedi cael plentyndod a bywyd anodd, rŵan mae ei bywyd yn hollol wahanol, mae wedi cyfarfod cariad sydd yn edrych ar ei hôl. Yn 2017 wnaeth Sienna roi genedigaeth i efeilliaid, un hogyn bach Sebastian ac un Hogan fach Sophie. Athrawes yw Sienna yn dysgu plant. Mae ganddi hanner chwaer o’r enw Liberty. . Yn ôl yn y flwyddyn 2000 Ganed Nico Blake merch i Sienna pan oedd Sienna ond yn dairarddeg oed. Mae gan Sienna frawd sydd yn efaill iddi ac yn Ewythr i Nico.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg)Hollyoaks yn Channel4.com
- (Saesneg)Hollyoaks yn Lime Pictures Archifwyd 2008-07-05 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg)Digital Spy: Hollyoaks
- (Saesneg)Hollyoaks o What's on TV