Guto Ffowc
Guto Ffowc | |
---|---|
Guto Ffowc: llun dychmygol (1900). | |
Ganwyd | c. 13 Ebrill 1570 Efrog |
Bu farw | 31 Ionawr 1606 (yn y Calendr Iwliaidd) o cervical fracture Westminster |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | person milwrol, milwr |
Swydd | alférez mayor |
Tad | Edward Fawkes |
Mam | Edith Jackson (Blake) |
llofnod | |
Roedd Guido "Guy" Fawkes, neu Guto Ffowc yn Gymraeg, (13 Ebrill 1570 – 31 Ionawr 1606), yn aelod o grŵp o Gatholigion Rhufeinig Seisnig a geisiodd gyflawni Cynllwyn y Powdr Gwn (neu'r 'Cynllwyn Pabaidd'), ymgais i chwythu i fyny Senedd Lloegr a lladd y brenin Iago I o Loegr, a thrwy hynny ddinistrio'r llywodraeth Brotestannaidd trwy ladd y pendefigion Protestannaidd, ar 5 Tachwedd 1605, digwyddiad a goffeir ar Noson Guto Ffowc. Aflwyddiannus fu'r cynllwyn.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed Guto yn Efrog, a threuliodd flynyddoedd fel milwr ym myddin Sbaen. Cyflwynwyd ef i Robert Catesby, arweinydd Cynllwyn y Powdr Gwn, gan y Cymro Hugh Owen. Fel milwr profiadol, roedd ei brofiad o bwysigrwydd mawr i lwyddiant yr ymgais. Fodd bynnag, cafwyd hyd i'r powdwr gwn oedd wedi ei osod mewn seler dan y Senedd cyn i Guto gael y cyfle i'w ffrwydro. Daliwyd ef a'r cynllwynwyr eraill a chafodd ei arteithio, ei gael yn euog o deyrnfradwriaeth a'i ddienyddio tri mis yn ddiweddarach. Ysgrifennai Ffowc ei enw cyntaf yn ei ffurf Eidaleg Guido, sy'n rhoi Guto yn Gymraeg.
Noson Guto Ffowc
[golygu | golygu cod]Tan yn ddiweddar iawn arferai plant a phobl ifanc yng ngwledydd Prydain fynd o dŷ i dŷ ddechrau fis Tachwedd gyda Guto - dymi o ddyn wedi'i wneud o hen ddillad a gwellt - i hel pres at Noson Guto Ffowc. Ar y noson honno rhoddid y "Guto" ar ben y goelcerth a'i losgi.