Ffynnon ofuned
Gwedd
Ffynnon neu bydew lle y credid y câi gofuned ei gywiro yw ffynnon ofuned. Ymddengys y cysyniad hwn drwy gydol llên gwerin Ewrop, gan gynnwys Cymru. Deilliodd y syniad hwn o'r gred bod duw(iau) yn y dŵr, neu fod y dŵr o darddiad dwyfol ac yn rhodd, am ei fod yn cynnal bywyd.