Neidio i'r cynnwys

David Lloyd (comics)

Oddi ar Wicipedia
David Lloyd
Ganwyd1950 Edit this on Wikidata
Enfield Town Edit this on Wikidata
DinasyddiaethLloegr, y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd comics, arlunydd, actor, artist, sgriptiwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amV for Vendetta Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Prometheus - Hall of Fame Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.lforlloyd.com Edit this on Wikidata

Arlunydd o Loegr yw David Lloyd (ganed 1950) sy'n arbenigo mewn comigion, ac sy'n adnabyddus am ddarlunio stori V for Vendetta, a ysgrifennwyd gan Alan Moore.

Dechreuodd Lloyd weithio ar gomigion yn ystod yr 1970au hwyr, gan ddarlunio ar gyfer Halls of Horror, TV Comic a sawl teitl Marvel UK. Ynghyd â'r awdur Steve Parkhouse, creodd y cymeriad antur pwlp Night Raven.

Pan sefydlodd Dez Skinn gylchgrawn Warrior ym 1982, gofynnodd i Lloyd greu cymeriad newydd pwlp. Roedd Lloyd a'r ysgrifennwr Alan Moore wedi cyd-weithio ar sawl stori ar gyfer Doctor Who gynt, a chreodd y ddau V for Vendetta, antur gyda therfysgwr anarchaidd sy'n ymladd yn erbyn llywodraeth ffasgaidd ddyfodol. Wedi i'r cylchgrawn ddod i ben ym 1984, ail-argraffwyd y gyfres mewn lliw gan DC Comics ac fel nofel graffeg ym 1995. Addaswyd hefyd yn ffilm a ryddhawyd yn 2006.

Gweithiodd Lloyd hefyd ar Espers, gyda'r ysgrifennwr James D. Hudnall, ar gyfer Eclipse Comics; Hellblazer, gyda'r ysgrifenwyr Grant Morrison a Jamie Delano,[1] a War Story, gyda Garth Ennis, ar gyfer DC; a Global Frequency, gydag Warren Ellis, ar gyfer Wildstorm. Darluniodd hefyd, gyda Delano, The Territory ar gyfer Dark Horse, a gweithiodd hefyd ar deitlau eraill y cwmni megis Aliens and James Bond. Mae hefyd wedi cynhyrchu nofel graffeg, Kickback, ar gyfer y cyhoeddwr Ffrengig Editions Carabas.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Alexander C. Irvine (2008). gol. Alastair Dougall: The Vertigo Encyclopedia (yn en). Efrog Newydd: Dorling Kindersley, tud. 102–111. OCLC 213309015
  2. Nodyn:Comicbookdb
  3. "War Stories: Vol. 1 profile". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-10-07. Cyrchwyd 2011-06-02.
  4. Nodyn:Comicbookdb
  5. "War Stories: Vol. 2 profile". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-10-07. Cyrchwyd 2011-06-02.