Neidio i'r cynnwys

David Jones, Treffynnon

Oddi ar Wicipedia
David Jones, Treffynnon
GanwydHydref 1770 Edit this on Wikidata
Llanuwchllyn Edit this on Wikidata
Bu farw25 Awst 1831 Edit this on Wikidata
Lerpwl Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl, emynydd, cerddor, gwaith y saer Edit this on Wikidata

Cerddor, emynydd a gweinidog gyda'r Annibynwyr oedd David Jones (Hydref 177025 Awst 1831).

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Ganwyd David Jones, Hydref 1770 yn Coed-y-ddôl, Llanuwchllyn, sir Feirionnydd. Ei alwedigaeth oedd gwneuthurwr llestri coed. Aeth am gwrs o addysg yn ddyn ieuanc, i'r athrofa yn Wrecsam o dan yr athro Jenkin Lewis. Aeth i Dreffynnon i ofalu am yr eglwys Annibynnol yno yn 1801. Yn 1810 cyhoeddodd gasgliad o emynau, a chafwyd ail argraffiad yn 1821 yn cynnwys fel atodiad Egwyddorion neu Dônraddau Cerddoriaeth (Gamut) a amcanwyd yn bennaf er annogaeth a chynnorthwy i Bobl Ieuangc i ddysgu Peroriaeth Sanctaidd (3ydd arg. yn 1826). Yn 1831 aeth i Fanceinion i gasglu at gynorthwyo eglwysi gweiniaid. Bu farw 25 Awst 1831, yn Lerpwl, trwy ddamwain. Claddwyd ef yn Nhreffynnon.

Ffynonellau

[golygu | golygu cod]
  • Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, iv, 222;
  • W. A. Griffiths, Hanes Emynwyr Cymru (Caernarfon 1907);
  • C. Ashton, Llyfryddiaeth Gymreig o 1801 i 1810 (1908);
  • Y Gwyddoniadur Cymreig (1889–96) (ail arg.), vi, 416 D;
  • R. T. Jenkins, Hanes Cynulleidfa Hen Gapel Llanuwchllyn (1937), 99, 114].

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]