Neidio i'r cynnwys

Cyfarwyddwr ffilm

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Cyfarwyddwyr ffilm)
Cyfarwyddwr ffilm
Enghraifft o'r canlynolgalwedigaeth, yr alwediagaeth o greu ffilmiau Edit this on Wikidata
Mathcyfarwyddwr, artist, film professional, film crew member Edit this on Wikidata
Rhan ofilm crew Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Y cyfarwyddwr Herbert Brenon a'r actores Alla Nazimova ar set y ffilm War Brides ym 1916

Mae cyfarwyddwr ffilmiau, neu wneuthurwr ffilmiau, yn berson sy'n cyfarwyddo gwneuthuriaid ffilm. Bydd y cyfarwyddwr yn medru gweld y sgript, rheoli agweddau dramatig a chreadigol y ffilm, tra'n arwain y criw technegol a'r actorion er mwyn gwireddu eu gweledigaeth.

Mewn rhai achosion, nid oes gan gyfarwyddwyr ffilmiau rheolaeth artistig llwyr. Hefyd gall y cynhyrchydd ddewis y cyfarwyddwr. Mewn achosion fel hyn, gall y cynhyrchydd ddefnyddio'i bŵer feto eto ar bopeth, o'r sgript ei hun i dorriad terfynol y ffilm.

Pan yn cyfarwyddo rhaglenni ar gyfer sioe deledu, diflanna cyfrifoldebau'r cyfarwyddwr rhyw faint, am fod naws a golwg gweledol y gyfres wedi'i sefydlu eisoes, gan amlaf gan y person a grëodd y sioe neu gan yr uwch-gyfarwyddwr. Mae'r cyfarwyddwyr hynny sy'n dewis neu a ddewisir i weithio yn y maes hwn fel arfer yn derbyn na fyddant yn cael eu canmol na'u talu gymaint a phobl eraill sy'n gweithio ar ffilmiau ar gyfer y sgrîn fawr.