Craig-cefn-parc
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Abertawe |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.7092°N 3.9156°W |
Gwleidyddiaeth | |
Pentref yng nghymuned Mawr, Sir Abertawe, Cymru, yw Graig-cefn-parc[1] neu Craig Cefn Parc ( ynganiad ). Saif yn uniongyrchol i'r gogledd-orllewin o dref Clydach. Saif gwarchodfa natur Cwm Clydach yr RSPB yn ne'r pentref, yn agos i'r New Inn, ar y ffin rhwng Craig-cefn-parc a Chlydach. Mae gan y pentref swyddfa bost a siop, tafarn o'r enw'r Rock & Fountain Inn a neuadd bentref. Ceir hefyd ysgol gynradd cyfrwng Saesneg yno.
Mae Craig Cefn Parc yn enwog am ei hanes lofaol. Yng nghalon Cwm Clydach mae ambell un o'r hen dai glo yn dal i sefyll. Gwelir tram glo yng nghanol y pentref fel cofeb i'r gwaith glo.
Ganwyd William Crwys Williams (Crwys), y bardd enwog o'r 20g yng Nghraig Cefn Parc, ac mae modd gweld "border bach" chwedl ei gerdd ar ochr llethrau'r cwm. Bardd arall a gafodd ei fagu yng Nghraig Cefn Parc oedd Gwilym Herber, nai Crwys.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.